Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y wir brifysgol. Ac eiddynt hwy fydd y gallu, a gwyn fyd Cymru pan ddeuant, heb sŵn utgorn na thabwrdd, i'w hetifeddiaeth.

Yn y dosbarthiadau hyn ceir rhai o nodweddion goreu y brifysgol berffaith.

i.—Cânt chwilio am wybodaeth er ei fwyn ei hun. Nid oes sôn am arholiad, ond un wirfoddol. Y mae cydymgais yn siwr; ond cydymgais ydyw am y mynediad helaethaf i mewn i deyrnas y meddwl, ac ni siomir neb. Ni raid wrth arholiad i brofi, mae prawf eglur yn yr ymarweddiad prydferthach, yn y meddylgarwch mwy hoffus, yn y defnyddioldeb mwy.

ii.—Cânt ddewis y pwnc sy'n cyfateb i angen eu meddwl a'u hardal. Hyd yn hyn hanes ac athroniaeth hanes ddewisir bron yn ddieithriad; ond nid yr hen hanes politicaidd sych am frenhinoedd a rhyfeloedd, eithr hanes datblygiad distaw y werin amyneddgar dirion dan arweiniad amlwg llaw rhagluniaeth. Nid oes faes trwy eang gylch gwybodaeth sydd mor swynol i werinwr; mae digon o le ynddo i'w gywreinrwydd a'i ddychymyg. A gwel ei fywyd ei hun ymhob cam

iii.—Cânt ddull cyfrannu addysg prifysgol ar ei pherffeithiaf. Dau ddatblygiad perffeithiaf addysg yw Ysgol Sul Cymru, lle mae'r efrydydd yn ddisgybl ac yn athro bob yn ail, ac weithiau y ddau ar unwaith; a chyfundrefn athrawol (tutorial system) Rhydychen a Chaergrawnt, lle mae'r disgybl mewn cysylltiad personol agos a pharhaus â'i athro. Y mae'r gyntaf yn bosibl oherwydd ymroddiad cenedl o bobl i ddysgu ei gilydd; y mae'r ail yn bosibl oherwydd fod i'r