Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

prifysgolion waddoliadau mawr, a thraddodiadau mil o flynyddoedd. Nis gallaf eu hesbonio yn awr, gwnaf hynny eto. Ond dywedaf hyn, y mae'r dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt yn meddu nodweddion y brifysgol berffaith. Bydd Prifysgol y Gweithwyr, yng nghyflawnder yr amser, yn brifysgol berffeithiaf sy'n bod at anghenion gwerin gwlad.

Y peth rhyfeddaf i ni yw fod mor ychydig yn gwybod am y dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt, a bod llai fyth yn gweled eangder a phwysigrwydd y dyfodol sydd iddynt.