Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ei ysgwrs yn athronyddol sosialaidd; siaradai fel un wedi arfer siarad a dadleu llawer yn gyhoeddus, a mynych y gofynnai a oeddwn yn gweld ei bwnc; soniai lawer am egwyddorion, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi darllen a meddwl. Ond yr oedd yn feddw. Nid oedd ei feddwdod eto yn fwystfilaidd nag yn gythreulig. Yr oedd y ddiod wedi effeithio mwy ar ei dafod nag ar ei gylla na'i feddwl. Ceisiai siarad, ond ai'n afrwyddach o hyd. Dylwn ychwanegu mai Cymro oedd, gwelir ei debig yn ein Hysgolion Sul yn athrawon ac yn arolygwyr. Siaradai Gymraeg y Fro, oedd yn brydferth hyd yn oed ar wefusau'r meddw.

Toc peidiodd a siarad, ond, a sigaret yn un law, mesurai ei dalcen yn barhaus â'i law arall, gan edrych yn awgrymiadol arnaf fi. Esboniwyd imi mai dangos fod fy nhalcen yn gul yr oedd, a'm henaid yn gul, oherwydd fy mod yn gwrthod gadael iddo ysmygu mewn cerbyd lle nad oedd gan neb hawl i ysmygu. A daeth cwestiwn i'm meddwl, a phoen a dychryn yn ddwy asgell iddo, —A yw rhyddhau'r meddwl oddiwrth yr hen anwybodaeth yn dwyn gydag ef ryddhau'r enaid oddiwrth hen dlysau hoff rhinwedd a moes a gweddusrwydd? Ai'r dafarn sy'n rhyddhau, a'r addoldy'n caethiwo, mewn gwlad werinol fel Cymru? A yw'r goleuni newydd i ddod yn nillad halog a budron yr hen bechodau alltudiwyd o fywyd Cymru drwy ymdrechion ei chymwynaswyr goreu?

Drannoeth yr oeddwn yn cyrraedd gwesty, gwesty dirwestol, yn un o gymoedd poblog Gwent, Yr oedd yno delynau a dawnsio. Yn y fynedfa yr oedd chwech neu saith o wyryfon ieuainc, glân o bryd a gwedd a chwaethus eu gwisg, oll yn ysmygu