Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sigarennau, ac yn ceisio dangos i bawb eu bod yn gwneud hynny. Tybient fod hyn yn brawf eu bod yn ddewr ac yn anibynnol, ac wedi dianc o hen gaethiwed syniadau cul. Nid wyf yn dweyd fod ysmygu yn beth hyllach ar ferch nag ar ddyn; yr hyn deimlaf yw ei fod yn beth hyll ym mhawb, —yn arferiad wastraffus, afiach, a budr. Nid hoedenod penwan, deallais, oedd y rhai hyn, ond merched digon deallgar a darllengar. Ac yr oeddynt am ddangos eu bod ar lwybrau newydd y meddwl drwy daflu oddiwrthynt bob yswildod gwyryfol a phob parch i deimlad rhai a barchant, ond a ystyriant yn gul.

Oni ellir dysgu'n pobl ieuainc i gerdded y llwybrau newydd gyda'r hen osgo brydferth a llednais? Oni ellir awchu'r meddwl, eangu'r cydymdeimlad, grymuso'r enaid heb wanhau moes ac heb amharu chwaeth? Gellir, onite nid yw'r awchu meddwl ond dynwarediad difin, nid yw'r eangu'r cydymdeimlad ond llacrwydd gwan, ac nid yw herio'r hen chwaeth ond gwaith gwendid penchwiban yn ffugio cerdded fel nerth urddasol.

Ond rhaid i genedl y Cymry ddeffro ac ymegnio, er mwyn achub ei phlant.

Un ddyletswydd amlwg yw ail godi'r Ysgol Sul i fod yn sefydliad addysgol penna'r genedl. Danghosodd Cynhadledd Zurich, yn yr haf diweddaf, fod cenhedloedd effro eraill yn ymegnio i godi'r

Ysgol Sul i fri a dylanwad[1] Gwneir hyn yn enwedig

  1. Cyflwynaf i sylw carwyr Cymru bamffledyn dwy geiniog, gyhoeddir gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Penllwyn, ar "Hanes Cynhadledd Zurich." Yr wyf yn hyder y deffry Cymru i ymdrech newydd i gadw'r Ysgol Sul yn ei grym a'i dylanwad ac i fynnu'r genedl yn fwy llwyr yn eiddo iddi.