Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yng Nghanada effro, lle mae pob llwybr yn newydd, ac yn yr Unol Dalaethau cyfoethog. Ond ceir yr ysgol hon yn hen ardaloedd y saith eglwys, ym Madagasgar a gwlad y Bechuana, yn Samoa a Fiji, a gostyngodd ymherawdwr Japan ei faner iddi. Yn hon ceir cerdded y llwybrau newydd mewn prydferthwch yn gystal ag mewn nerth.

Y mae sefydliadau addysg eraill, a'r rhai perffeithiaf eu dull yn debig i'r Ysgol Sul. Cefais gyfle i enwi un, ond y mae arnaf ofn na ddanghosais yn ddigon clir beth oeddwn yn feddwl. Tybiodd llawer, yn ddiau, wrth ddarllen fy llith ar Brifysgol y Gweithwyr, yn y bennod ddiweddaf, mai breuddwyd oedd fy neges. Ond nid breuddwyd heb ei sylweddoli yw, eithr ffaith. Y mae amryw athrawon ieuainc, yn barod, yn rhoi eu holl amser i'r gwaith; y maent wedi cael addysg sy'n eu cyfaddasu at y gorchwyl, y mae rhai ohonynt wedi cael y graddau mwyaf anrhydeddus fedr y prifysgolion roi. A gwell na hynny, y maent yn ddynion profiadol, wedi bod yn weithwyr a chynllunwyr eu hunain, yn chwarelwyr, yn lowyr, yn amaethwyr. Y mae eu calon yn eu gwaith, gallasent gael lleoedd llawer gwell a chyflogau llawer uwch; ond teimlant bwysigrwydd eu gwaith yn hytrach na'u hawl i gydnabyddiaeth deilwng. I gyfarfod y rhai hyn, daw bechgyn a merched ieuainc, oddiwrth waith y dydd, yn awyddus am wybodaeth. Pe gwelech hwy, a phe clywech hwy, teimlech yn hapus wrth gofio mai yr eiddynt hwy yw dyfodol Cymru.