bedair ffaith fawr: ymadawiad dyn â Duw—ymadawiad dyn âg ef ei hun—dychweliad pechadur ato ef ei hun—dychweliad pechadur at Dduw. Y mae y ddwy gyntaf yn wir am bob dyn; ac y mae y pedair yn wir am bob credadyn.
I. YMADAWIAD DYN A DUW.
Dangosir hynyma drwy y gydmhariaeth o fab yn cefnu ar ei dad: A'r ieuangaf, &c. Yn eu hieuenctid y gwna y nifer lïosocaf o bobl y camgymeriadau mwyaf a wnant o gwbl; ac ymddyga miloedd o honynt mor ffol yn y blynyddoedd rhwng pymtheg a phump-ar-hugain oed, fel ag i niweidio eu hunain am weddill eu hoes. Gallwn dynu rhai addysgiadau oddiwrth yr amgylchiad hwn: (1) Prin y gall yr ieuanc feddu llawer o synwyr. Nid wyf drwy hyn yn awgrymu dim tramgwyddus: y mae ambell i fachgen yn gallach nag ambell i ddyn. Cymaint a feddyliaf yw hyn—nad yw y llanc ugain oed mor ddoeth ag y bydd, os gwna gyfiawnder âg ef ei hun, yn ddeugain oed. Un rheswm am hynny ydyw, fod yn yr ieuanc fwy o deimlad nag o reswm, a mwy o nwyd nag o farn. Ymddeffry teimlad ynom yn gynar, a chyrhaedda i rym mawr yn foreu; yn raddol yr ymegyr rheswm; ac nid yw pob meddwl yn ymddihuno i gyd yn y byd hwn. Y mae y llanc mor lawn o nwyd ag y bydd byth; yn araf y daw i feddiant o farn. Gwyddis hefyd nad ydyw dyn, fel rheol, byth yn ymddiried cymaint yn ei ddoethineb a phan y bydd brinaf o honi. Cofia llïaws o honom gyda galar am y cyfnod brwdfrydig a hyderus hwnw, pryd yr oeddym yn siarad yn anffaeledig, ac yn penderfynu cwestiynau ag yr ydym heddyw yn cilio yn ddychrynedig oddiwrthynt. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd un o brif beryglon ieuenctyd. Eu dyledswydd, o ganlyniad, ydyw arafu, ymgynghori â rhieni ac athrawon, a gwylied. (2) Ac ar ol ychydig ddyddiau, &c. Gwelwn yn y geiriau hyn un gwahaniaeth rhwng teimlad a rheswm: y mae y cyntaf bob amser ar frys, ac y mae y diweddaf bob amser yn bwyllog. Y mae chwant yn ddïeithriad ar dân; y mae meddwl yn ystyried cyn penderfynu materion pwysig. (3) A gasglodd y cwbl: nid oedd yn bwriadu dyfod yn ol byth, onide gadawsai