ngoleuni ei adgofion am olud a gogoniant ei sefyllfa wreiddiol, y gwelai warth a thrueni ei gyflwr presennol. Wrth feddwl am raslonrwydd ei dad, ac am ddigonolrwydd ei gartref, ymwrolodd, er pelled oddiwrthynt ydoedd, i geisio myned yn ol; "Mi a godaf, &c." Yr un modd, y peth mwyaf priodol i bob crwydryn moesol ydyw ymofyn am yr hen lwybrau. Y peth doethaf all y dyn annuwiol, caled, llygredig, a ddygwyd i fyny mewn teulu crefyddol, wneuthur ydyw, dychwelyd—dychwelyd ato ei hun yn yr ystad oreu a phuraf, yn y cyfnod mwyaf diniwed, a fu arno erioed. Eled yn ol i foreu gwyn ei einioes, pryd yr oedd angylion yn ymddangos iddo yn ei freuddwydion, a phan yr oedd gwlith y nef heb sychu oddiar lwybrau ei fywyd. Galwed yn ol ddyledswydd deuluaidd ei hen gartref. Cofied am dano ei hun yn dringo ar lin ei dad, i ddyweyd adnodau wrtho, ac i wrando ar ei gynghorion, ac am dano ei hun yn plygu wrth ochr ei fam, i adrodd y gweddïau a ddysgasai iddo, ac i dderbyn ei bendithion. Ac odid fawr na bydd iddo wrth wneuthur hyny, gywilyddio, edifarhau, ac ymdrechu adfeddianu diniweidrwydd a gobeithion ei ieuenctid.
2. Y mae dyn wrth ddyfod ato ei hun, yn dyfod at ei reswm. Ac nis gall unrhyw bechadur wneyd dim yn well na dychwelyd at, ac aros gydag unrhyw weddillion o feddwl a synwyr a ddichon fod yn glynu yn ei natur. Galluogir ef drwy hyny i adnabod ei hun i ryw raddau. Ac wrth i oleuni gwelw ac anwadal ei enaid gael ei gryfhau gan lewyrchiadau dwyfol, y mae yn canfod ei hun fel y mae mewn gwirionedd. Gwel mor ddwfn ydyw ei dylodi, ac mor wrthun ydyw ei falchder, ae y mae yn cywilyddio,—mor ddisail ydyw ei gysuron, ac mor ddïwraidd ydyw ei obeithion, ac y mae yn dychryn. Gwel, mewn gair, ffolineb ei bechod; ac y mae yn bwysig dros ben i ni ddeall a theimlo fod drygioni yn ffolineb—y ffolineb mwyaf sydd yn bod. Tra y mae crefydd ynddi ei hun yn rhe—symol, ac yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae yn enill dylanwad arno, yn fwy dynol a rhesymol yn barhaus; y mae pechod yn ynfydrwydd, ac y mae yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae ei arglwyddiaeth arno yn cynnyddu, yn fwy ynfyd a diryw—iedig o hyd. Gweled hyn y mae pechadur wrth ddyfod