Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y deuant, a pha mor dylawd, llygredig, a thruenus bynag, y gallant fod, cânt eu croesawu: Ioan vi. 37. Gan nad beth ydym, fuom, ac a wnaethom, derbyniwn ymwared, ymgeledd, bywyd, a gogoniant ynddo Ef: 1 Tim. i. 15. Gwelir oddiwrth y testyn fod yr Arglwydd yn dysgwyl afradloniaid yn eu holau. Gwna hyny am ddau reswm: yn gyntaf, oblegyd fod ar ddyn eisiau Duw, ac nad all fod byth yn ddedwydd na thawel hebddo, Ni ddysgir hynny mor amlwg yn y ddwy ddameg flaenorol ag y gwneir yn hon. Nid ydyw dafad yn gofalu, cyhyd ag y mwynha ryddid a phorfa, eiddo pwy ydyw. Ac ni waeth gan ddarn o arian fod yn golledig mwy nag yn gadwedig—yn y môr mwy nag yn y banc: y mae yn bwysig i'w berchenog. Yr un modd gyda golwg ar filoedd o bethau a gollir, yr hwn sydd yn colli, ac nid yr hyn a gollir, sydd yn teimlo, ac efe sydd yn llawenhau wrth gael yr eiddo. Ond y mae yn enaid pechadur ddyhead greddfol am ei Greawdwr, a rhywfaint o duedd i ddychwelyd ato. Ar y llaw arall, y mae ar Dduw eisiau dyn; ac y mae mewn Creadigaeth, Rhagluniaeth, ac Iachawdwriaeth, yn defnyddio moddion afrifed i geisio ei ddwyn yn ol. Ac wrth iddo ddyfod, caiff Ceidwad a chadwedig lawenychu ynghyd,—caiff y diweddaf fywyd tragwyddol, a chaiff y Cyntaf ogoniant tragwyddol.

Gwyddom hefyd fod yr Arglwydd yn gwahodd ac yn cymhell pechaduriaid gyda serchawgrwydd a thaerineb rhyfeddol, i ddychwelyd ato: Es. xlv. 22, lv. 1-3, Matt. xi. 28-30, &c. Yn gyson â hyn, dangosir Ef yma fel tad yn dysgwyl ac yn edrych am ei fab yn ol: "A phan oedd efe etto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef." Dywedir fod cariad yn ddall; camsyniad mawr yw hynny. Er nad ydyw yn cyhoeddi colliadau a beiau ar benau yr heolydd, y mae yn eu gweled, ac nid oes neb na dim a ddichon geryddu am danynt fel efe. Ond y mae, mewn modd arbennig, yn graff i ganfod daioni a diniweidrwydd, tylodi a thrueni. Mor glir raid fod golygon Cariad anfeidrol! Mor bell y mae yn gweled! Wrth weled, tosturiodd y tad, "ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd." Canlyniad dychweliad yr Afradlawn oedd llawenydd o bobtu. Fel yr oedd y