Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bugail ac yr oedd y wraig yn llawenychu oblegyd darganfod eu heiddo, ac fel yr oedd hynny yn gysgod o lawenydd uwch,—"felly y bydd llawenydd yn y nef" ac "y'ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao," y cawn yma dad yn llawenychu oherwydd dychweliad ei fab: 22-24. Yn swn edifeirwch y mab y llefarai y tad yr adnodau hyn: A ydyw yn briodol i ni, wrth i ddyhirod fel hwn geisio aelodaeth yn ein heglwysi, lawenychu? Nid ydym wedi arfer gwneyd. Yr ydym yn hytrach, a barnu wrth yr esiampl hon, wedi bod yn rhy sarug wrthynt, ac yn rhy amheus o honynt. Bywyd o lawenydd ydyw crefydd i fod; un o brudd-der i raddau helaeth ydyw wedi bod yng Nghymru. Y mae gan y byd ei ddifyrion; oni ddylai fod, ac onid oes, gan yr Eglwys rai hefyd? Cynnelir gwleddoedd, a phob math o rialtwch, ar briodasau, genedigaethau, a dyfodiad etifeddion daearol i oed; oni ddylai Crefydd ymwynfydu yn ei ffordd ei hun wrth i bechaduriaid edifarhau, cael eu haileni, a phrofi cymundeb â Duw? Cawn yn y ddameg hon, yn ychwanegol at fwynhad yr Eglwys ar y ddaear, gysgod o lawenydd tragwyddol y Nef. Mor gyflawn fydd ei gwynfyd! Eneidiau iach, hollol sanctaidd, a pherffaith ddedwydd ynddynt eu hunain, mewn amgylchiadau hollol ddymunol o ran cyfoeth, gwlad, awyr, golygfeydd, a chymdeithas mor naturiol iddynt, ar ol ofnau a dagrau y ddaear, fydd gor—foleddu a moliannu! Cânt yfed byth bythoedd o afon hyfrydwch Duw: Es. xxxv. 10. "A hwy a ddechreuasant fod yn llawen." Pa bryd y darfyddant? Pa bryd y terfyna y neithior, y derfydd y wledd, ac y bydd y canu drosodd! Pa bryd y derfydd tragwyddoldeb, ac y gedy Duw ei orseddfainc!

A ydym ni wedi dychwelyd at yr Arglwydd? Bwriada pawb wneyd. Gwyliwn aros yn rhy hir! Diangodd llawer bachgen mewn ystyr naturiol, oddi cartref, ac arosodd, er teimlo yn fynych awydd dychwelyd,—arosodd mor hir nes cael, pan y daeth, ei hen gartref yn furddyn, ei frodyr wedi ymwasgaru, a glaswellt hir yn tyfu ar fedd ei rïeni. Gochelwn ymdroi gormod! Y mae y cyfleusterau yn diflanu!