Derbyniwn wrth ddychwelyd at ein Duw,
Ein hunain mewn gogoniant newydd, byw,
Daw annuwiolion halog dan y Groes.
Yn frodyr i gerubiaid pur mewn moes;
O Haul Cyfiawnder ymdywynna dydd.
Y Nef i nos gyffrous eneidiau prudd;
Ymgilia bleiddiaid llygredigaeth; cân
Eosau gwynfyd mewn calonnau glân;
Anadlwn beraroglau Pren y Bywyd
Yn nglynnoedd oerion Amser drwy yr Ysbryd.
GRAS EIN HARGLWYDD IESU GRIST.
"Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef."—2 COR. viii. 9.
CAWSAI Cristionogion Judea oddeutu yr amser yr ysgrifennid yr Epistol hwn, eu darostwng drwy erlidiau, rhyfeloedd, newyn, &c., i gyfyngderau mawrion. A gelwid ar saint y gwledydd cylchynol, fel y gwelir oddiwrth lïaws o gyfeiriadau yn y Testament Newydd, i wneuthur casgliadau tuagat gyflenwi eu hangenion a lliniaru eu helbulon. Ymddengys felly nad yw gwaith rhai pregethwyr, a llawer o flaenoriaid, yn annog credinwyr i gyfranu arian at achosion crefyddol a dyngarol, ddim yn gymaint o newydd—beth anianol, a chroes i ysbryd yr Efengyl, ag y mae rhywrai yn ei ystyried, oblegyd cawn Apostol yn gwneyd hynny yn y pennodau hyn. Rhydd ddwy (viii., ix.) bennod—dwy allan o dair-ar-ddeg, i drafod y pwnc, a gwna hynny yn helaeth ac yn fanwl. Gesyd ef allan yn ei natur ac yn ei ddylanwad, yn ei gymhelliadau ac yn ei amcanion. Dengys ei fod yn