Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anfeidrol cyn y gallasai o gwbl ddyfod yn dduwiol. Canfyddai dynion, wrth iddo fyw yn eu mysg, ei fod yn feddianol ar ddwyfoldeb. Amlygai iddynt briodoliaethau dwyfol. Gwelent ynddo ddyn, tebyg iawn iddynt hwy eu hunain, yn cyflawni gwyrthiau,—tröai y dwfr yn win a chyfodai feirwon ger bron eu llygaid. Yr oedd yr angylion ag oeddynt yn ei adnabod yn nhragwyddoldeb, wedi gweled mwy na dwyfoldeb ynddo,—yr oeddynt hwy wedi bod yn addoli ei dduwdod am filoedd o flynyddoedd. Cyfranogai erioed o fywyd a sylwedd, ac, o ganlyniad, o wynfyd a gogoniant, yr Hanfod Ddwyfol; a chawn Ef ar y ddaear yn gweddïo am danynt yn ol: Ioan xvii. 5.

Mor briodol, gan hynny, ydyw mynegiad yr adnod hon am dano yn ei sefyllfa wreiddiol," Ac yntau yn gyfoethog"! Meddai gyfoeth y Duwdod. Y mae dau fath o olud yn bod—mewnol ac allanol. Medd rhai dynion yr olaf heb y cyntaf: pe na buasent yn werth aur neu dir, ni fuasent yn werth dim. Medd rhai ereill y blaenaf heb y diweddaf; y mae eu cyfoeth i gyd yn gynnwysedig o athrylith, sancteiddrwydd, neu gariad; ac felly y mae yn bod ynddynt hwy eu hunain. Gyda golwg ar y mwyafrif o bobl, meddant rywfaint o bob un; ac y mae rhywrai nad oes dim ynddynt na dim ganddynt.

Yr oedd yr Arglwydd Iesu er ys miloedd o flynyddoedd cyn ei ym—gnawdoliad, yn meddu golud diderfyn y tu allan iddo Ef ei hun. Cynnaliai fydoedd afrifed à gair ei nerth; ac yr oedd miliynau o greaduriaid o bob math, maint, a llun, yn disgwyl wrtho, ac yn eiddo iddo. Ond buasai yn ei sefyllfa fwyaf gwreiddiol a hanfodol, yn llawer hwy heb ddim oddi—allan iddo ei hun. Nid oedd na haul na thywodyn yn ymddibynu arno, na cherub nac abwydyn yn ufuddhau iddo. Yr oedd tragwyddoldeb yn anfeidroldeb mud; ei unig breswylydd oedd y Duwdod yn Drindod o Bersonau. Er hynny, ni bu Iesu Grist erioed heb gyfoeth annherfynol ynddo Ef ei hun. Cynhwysai ei natur adnoddau anhysbyddadwy. Meddai alluoedd diderfyn i feddwl a charu, i greu a chynnal, i gyfranu a llywodraethu. Yn ei amser ei hun, rhoes ei alluoedd ar waith, a chanlyniad hynny oedd creadigaeth lawn o fywyd a threfn, o brydferthwch a dedwyddwch. "Trwyddo ef y gwnaethpwyd