Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn gyfnewidiad er gwaeth, ac nid er gwell. Gofynai pob cam a roddai ein Harglwydd am hunanymwadiad; yr oedd pob symudiad iddo Ef yn symudiad i lawr, ac nid i fyny.

Naturiol, o ganlyniad, ydyw gofyn, oddiar ba egwyddor y gweithredai. Rhaid ei bod yn un rymus iawn. Gan iddo gael ei dueddu, ar y naill law, i adael gwynfyd a gogoniant y Nef, ac i ymgymeryd, ar y llall, â gwaith mawr a dyeithr, llawn o anhawsderau a pheryglon, cyforiog o waradwydd a gwae, rhaid ei fod o dan arglwyddiaeth y cymhelliad cryfaf a phuraf mewn bod. Nid oedd creu a chynal bydoedd, a diwallu a llywodraethu miliynau o greaduriaid, yn ddim mewn cydmhariaeth i iachawdwriaeth pechaduriaid. Pa beth oedd yn dylanwadu arno? Pa beth allasai beri iddo ddewis tylodi o flaen golud, ing o flaen dedwyddwch, a gwarth o flaen gogoniant? Gras yw atebiad yr adnod hon: "Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist." Cynhwysa hyn ddaioni, cymwynasgarwch, trugaredd annherfynol. Oddiar gariad y gweithredai y Tad wrth roddi y Mab, ac oddiar yr un egwyddor y gweithredai y Mab wrth roddi ei hun: Ioan iii. 16, 1 Ioan iii. 16, &c. Deuai y Diweddaf mor wirfoddol ag yr anfonid Ef gan y Cyntaf. Cariad hunan=gynhyrfiol Duw achosodd y cyfan. Effaith, ac nid achos, ei gariad Ef at ddynolryw oedd marwolaeth y Groes. Nid dyoddefiadau y Gwaredwr gynhyrchodd dosturi yn y galon ddwyfol at bechaduriaid; y tosturi dwyfol yn hytrach gynhyrchodd ddyoddefiadau y Gwaredwr. Amlygiad o gymwynasgarwch tragwyddol ac anfeidrol oedd. bywyd a marwolaeth Crist.

Cariad y Personau Dwyfol—y Duwdod, yw yr eglurhad ar ymddarostyngiad ein Harglwydd. A chan nad faint o warth ac ing oedd yn gynnwysedig yn ei ddarostyngiad, y mae cariad yn eglurhad digonol arno.

Hi yw yr egwyddor gryfaf yn y Nef ac ar y ddaear. Trwyddi hi y galluogir dynion i wneyd y pethau mwyaf a goreu a wnant; ac oddiarni hi tarddodd gweithredoedd penaf a gogoneddusaf y Drindod bendigedig. Meddylier am ei gorchestion ar y ddaear.—Gwelir hi yn fynych yn disgyblu pobl i ddewis tylodi o flaen golud, a dirmyg o flaen