anrhydedd. Y mae hunanymwadiad yn beth dichonadwy a naturiol iddi hi. Try bechaduriaid lledryw ac anwadal yn greigiau byw o ffyddlondeb; a gwna ddynionach hunanol yn wroniaid llawnion o hunanaberthiad. Nid oes unrhyw egwyddor mor groes i ysbryd daearol a masnachol, ac mor anesboniadwy i reswm oer, a chariad. Nid oes unrhyw allu yn tori iddo ei hun lwybrau mor newyddion a beiddgar ag ef. Nis gall bydolrwydd a chyfrwystra olrhain rhodfeydd na dirnad ymddygiadau y fath fywyd goruchel. Ymddengys ei weithrediadau uchaf i feddwl anianol a chalon hunanol, yn annaturiol ac yn afresymol mor annaturiol ag yr ymddangosai y ffaith fod y ddaear yn troi o amgylch yr haul i bobl yr oesoedd gynt, mor ddyeithrol bron a phe byddai afonydd y byd, yn lle rhedeg i lawr i'r môr, yn rhedeg i fyny i'r mynyddoedd.
Wrth ystyried fod yr holl allu hwn—y cariad oedd yn ddigon grymus i gymhell y Tad i anfon ei Fab, ac i dueddu y Mab i ddyfod, i'r byd, yn gystal a holl haeddiant marwolaeth y Groes, yn parhau i gyd o blaid ein cadwedig—aeth, gwelir fod genym bob sail i ymddiried a gobeithio a diolch. Gall cariad dyn—creadur bach, a mwy neu lai hunanol a llygredig, gyflawni rhyfeddodau prydferth. Ac os ydyw hyny yn ddichonadwy iddo ef, gymaint yn ychwaneg allai cariad creadur mawr a sanctaidd fel angel ei wneyd! Ac os gall cariad creadur o gwbl gynhyrchu pethau teilwng, pa peth nad allai cariad Duw—Duw anfeidrol mewn mawredd, cyfoeth, a doethineb, ei achosi! "Duw, cariad yw." Tueddu rhieni i amddiffyn eu plant y mae cariad cyfyng dynion; ond yr oedd yn yr Arglwydd ddigon o gariad i achub ei elynion, ac i daraw ei Fab ei hun er mwyn eu hachub hwynt. Cariad awgrymodd i Grist y syniad am adael y Nef, a chan gariad yr arweiniwyd Ef drwy ddyfnderoedd tywyll o dylodi a gwarth, o ing a marwolaeth: Ioan xv. 13. Ac wrth ystyried fod cariad dwyfol wrth wraidd yr iachawdwriaeth, y mae llawer o'i hanhawsderau yn diflanu. Gwyddom fod yn perthyn iddi ddirgelwch a rhyfeddod—dirgelwch nas gall meddwl dyn nac angel byth ei ddirnad i gyd, a rhyfeddod sydd yn coroni goruchwyliaethau Un ag y mae ei