ein hunain. Tardd llawer o rinweddau oddiar y ddynoliaeth ei hun pan fo ar ei goreu; ond nis gall ddwyn dim gwell. Tyf rhedyn gwylltion o'r ddaear megys o honynt eu hunain; rhaid i ni hau gwenith cyn y mwynhawn ei ffrwyth. Yn gyffelyb, ymflagura moesoldeb prydferth drwy ofal o'r natur ddynol; ond y mae sancteiddrwydd yn gynyrch had newydd, dwyfol: "Rhodd Duw ydyw." (2) "Nid o weithredoedd "; cyfarfod ein hymdrechion ni y mae bendithion Rhagluniaeth y rhan fynychaf; ond y mae ffynhonnell y rhai hynny y tu ol i ymdrechion, Y mae ymroddiad y Cristion yn hyrwyddo ei gynnydd mewn gras; ond nid ydyw ei achubiaeth yn cyfodi mewn un modd oddiar ei ddiwydrwydd ef ei hun. Nid ydyw yn effaith ei gyflawniadau; ond y mae yn achosi ynddo weithgarwch newydd. Er nad ydyw ei iachawdwriaeth o weithredoedd, y mae i weithredoedd—da. Golyga yr Apostol fod y ffrwyth yn tarddu oddiar y pren, yn hytrach na bod y pren yn ganlyniad y ffrwyth. "Fel nad ymffrostiai neb": byddai unrhyw fost yn y cyfeiriad hwn yn ddinystr tragwyddol i ddynion; ac ataliai oddiwrthynt y deyrnged o ogoniant ag y mae yr Arglwydd yn deilyngu mor gyfiawn. Heblaw hynny, byddai y peth ynddo ei hun yn annichonadwy; yn hytrach na bod y saint yn gwneyd eu hunain, cael eu gwneyd y maent, "Canys ei waith ef ydym"—gwaith Duw. Golyga hyn rywbeth gwahanol iawn i ymadrodd cyffelyb yn Ioan (vi. 29): "Hyn yw gwaith Duw." Yr hyn a wnant hwy iddo Ef yw y diweddaf; yr hyn a wna Efe i, ar, ac yn, y credinwyr ydyw y cyntaf. At hwnnw y carwn ennill eich sylw. Meddylier am fawredd, pwysigrwydd, anhawsderau, a rhyfeddodau y peth; a hyderaf y cawn drwy hynny olwg ar ei natur.
1. Gallasai yr Arglwydd yn ddiau, ar y cychwyn, wneyd un o dri pheth â phechadur: ei ddamnio, ei ollwng it ddiddymdra yn ei ol, neu ei arbed. Dewisodd yr olaf—yr anhawddaf, er ar yr un pryd, y gogoneddusaf o lawer. Yr oedd ei achub yn anhawdd, oblegyd fod hynny, yn sefyllfa wreiddiol pethau, yn anghyfreithlawn. Yr oedd yn groes i'r ddeddf uchaf mewn bod. Yr oedd yn wrthwynebol i bob trefn'a llywodraeth. Arfer pob teyrnas