cynnwysa o angenrheidrwydd, wneuthur yr hen yn newydd. A chaniateir fod hynny yn orchwyl mawr, anhawdd—anhawddach na gwneyd peth newydd—newydd hollol. Teimlwn hynny gyda laws o bethau cyffredin: änt, wrth gael eu defnyddio yn fynych i sefyllfa mor ddrwg fel nad ellir eu hadfer; rhaid pwrcasu rhai ereill. A gwirionedd amlwg am ddynoliaeth ddirywiedig a llygredig ydyw, nad ellir ei hachub drwy foddion naturiol; nis gall addysg ei bywhau, ac ni ddichon diwylliad ei sancteiddio; rhaid ei chreu o newydd. A dyna ydyw y gwaith hwn—sydd mor ysbrydol ac mor ryfeddol. Y mae y llong ardderchog yn myned—wrth gael ei gyru yn hir o flaen corwyntoedd, a chael ei churo yn aml yn erbyn y creigiau, mor fregus fel y teimla ei pherchenog yn yr olwg arni, y byddai adeiladu un arall yn llawer doethach na cheisio ei gwella hi. A dichon y buasai, ar ryw gyfrif, yn hawddach ac yn rhatach i Dduw ollwng y troseddwr du yn ol i ddi-ddymdra, a galw creadur glân ac urddasol i fod yn ei le, na diwygio pechadur; ond fel arall y gwnaeth. Penderfynodd droi y gwrthryfelwr hyf a halogedig yn blentyn sanctaidd, caruaidd a phrydferth, iddo ei hun: 1 Petr i. 23. Gwna yr hen ddyn yn newydd—wrth y cynllun uchaf mewn bod: Ephes. iv. 22-24. Gwaith mawr a gogoneddus ydyw hwn. Rhywbeth pur anhawdd fyddai gwneuthur hen dŷ yn newydd; myned, y mae yn debyg, er i ni ymdrechu ymgadw at gynllun y gwreiddiol, yn dŷ arall a wnai o dan ein dwylaw. Ond gwna yr Arglwydd hynny, adnewyddu hen feddwl tywyll, anianol, gan ei lanw â bywyd pur a goleuni cynhes,—troi hen galon galed, ddreiniog, lawn o derfysgoedd poethion, yn barad—wys dawel a phrydferth; gwneuthur hen ysbryd pwdr a chrin yn ysbryd newydd ieuanc, llawn o ireidd-dra dwyfol ac o ffrwythlondeb nefol: Ezec. xi. 19, 20. Gwneir yr enaid yn newydd yn gwbl newydd o ran profiad, dymun—iad, amcan; ac eto bydd yr un un—yr un un o ran sylwedd a nodweddion. Ac yr ydym i gyd yn hoffi hynny. Nid eisiau enaid arall—mwy na llai na hwn, sydd ar neb o honom ein hawydd penaf yn hytrach ydyw—am gael hwn yn lân ac yn dawel. A dyna foreu hyfryd a digymylau a fydd hwnnw, pan y caiff yr enaid ei hun yn iach
Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/136
Gwedd