Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai. Y tebygolrwydd cryf ydyw fod y bobl bryderus hynny a geisiant yn barhaus garu a chredu yn Iesu Grist, i gyd mewn gwirionedd ynddo Ef, ac felly, yn ychwanegol at wella rywfaint oddiallan, eu bod yn wir, o fewn ac o faes, yn greaduriaid newyddion. Ac y mae deall hynny yn nefoedd ar y ddaear.

4. Teifl un ymadrodd yn yr adnod hon oleuni tanbaid ar fawredd y gwaith hwn—"wedi ein creu," &c. Y mae yn gyfystyr â chreadigaeth. Nis gall creadur, o ganlyniad, gan nad pwy a fydd, mewn amser hir mwy na byr, na thrwy unrhyw foddion—addysg, esiampl, rhyddid, cyfoeth, o gwbl ei gyflawni. Camp arbennig y Jehofah ydyw. Dywedir weithiau fod dynion yn creu; ond mewn ystyr benagored iawn y defnyddir y gair ar y cyfryw achlysuron. Gallwn ni ad-drefnu hen ddefnyddiau, a gallwn droi ein syniadau yn weithredoedd newyddion; ond nis gallwn alw dim i fod o ddim. Gweled, yn hytrach, ydyw braint a bri dyn. A dylem ddiolch am ambell i enaid sydd yn gweled—yn gweled yn gliriach ac yn bellach nag ereill, ac yn darganfod gwledydd newyddion, a bröydd mor hyfryd nes yr ydym, wrth iddo eu dangos ini, yn chwenych myned i fyw iddynt. Gweledigaethau, yn hytrach na chreadigaethau, yw peth goreu pechadur. Duw yn unig a ddichon greu; a gwna hynny yn yr ystyr uchaf yn awr. Fel yr anadlodd yn y dechreuad anadl einioes i Adda, y mae yn anadlu yn bresenol i eneidiau meirwon a llygredig, ysbrydoliaeth sydd yn eu gwneyd yn fyw ac yn gryfion, yn sanctaidd ac yn brydferth. Goddefir i mi fynegi fod llawer hyd yn nod rhwng yr angel, a bod yn greawdwr. Medr ddinystrio: 2 Bren. xix. 35; gall gynnorthwyo: Heb. i. 14; a diau ei fod wedi helpu llawer dynyn i gario ei faich i ben y rhiw, a llawer cenedl wan i enill ei hiawnderau oddiar un gref a chreulawn; ond nis gall alw dim i fod o ddim. Y mae lluaws o honoch chwi yn ddigon glân i weled angylion, yn eich cwsg neu yn effro; a phan welwch un nesaf, erfyniwch arno greu i chwi rywbeth bach—rhosyn i berarogli ar eich mynwes, neu eos i ganu wrth eich tŷ; a bydd y creadur sanctaidd yn debyg o ymadael yn syn ac yn athrist. Gwell i ni gyfyngu y gwaith o greu i Dduw: medd Ef adnoddau annherfynol