Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd rhwng y ddwy flaenorol, gwahaniaetha hno lawn cymaint oddiwrth bob un ohonynt. Tra yn cyf- ranogi yn helaeth o symledd a rhyddid y trefniant Patriarchaidd, y mae yn perthyn iddi hefyd ordinhadau ac addoldai a swyddogion; ac er bod yn y pethau olaf a nodwyd yn ymdebygu rhywfaint i Oruchwyliaeth Moses, y mae, ar yr un pryd, yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrthi. Er esiampl, yr oedd lle yn elfen bwysig yn nghrefydd yr Iuddewon; yn Jerusalem ac yn y Deml yr oedd yn rhaid iddynt hwy addoli. Ond caniateir i ni ddewis ein lleoedd; cyfarfyddwn à Duw ymhob man—yn y bwthyn yn gystal ag yn y cysegr; ac y mae ei bresennoldeb Ef yn troi y cwm yn deml. Nid ydyw lle, gan hyny, na dull, mwyach, cyhyd ag y bydd lle a dull yn weddus—yn gyson à "phrydferthwch sancteiddrwydd," yn meddu llawer o bwysigrwydd. Ac y mae cysylltu. bendithion yr Efengyl wrth unrhyw le neillduol, yn wadiad o awdurdod ddwyfol y Testament Newydd. Yr un pryd, o dan bob goruchwyliaeth a thrwy yr holl gyf- newidiadau a grybwyllwyd, yr oedd ac y mae addoliad ei hun yn gwbl yr un peth. Cyflwynai Enoch a Dafydd i Dduw yr un offrymau, o ran egwyddor ac ysbryd, ag a gyflwynai Martin Luther a William Williams, Pantycelyn. Gan nad faint o wahaniaeth sydd rhwng dull yr eglwys filwriaethus a dull yr eglwys orfoleddus, neu rhwng dull dynion a dull angelion o addoli, can belled ag y maent yn addoli, y maent yn gwneyd yr un gwaith yn hollol o ran ei natur. Y mae mawl y ddaear o ran ei hanfod yr un peth a mawl y nef.

Gan adael heibio y naill wedd ar y pwnc, yr holiad y carwn ei ofyn, ac y carwn, pe gallwn, ei ateb, ydyw—Pa beth yw addoliad ynddo ei hun—pa beth ydyw, nid yn unig ar wahân oddiwrth y ffurfiau allanol a chyfnewidiol a nodwyd, ond ar wahân hefyd oddiwrth ordinhadau mwy hanfodol a sefydlog, megys gweddio a chanu mawl, darllen y Beibl a phregethu yr Efengyl-pa beth ydyw yn ei natur? Yr atebiad goreu a fedraf roddi ar hyn o bryd ydyw, ei fod yn rhyw fath o gymdeithas uchel ac ysbrydol rhwng dyn a Duw. Calon y creadur ydyw y ffynnonell o ba un y tardd diolchgarwch a moliant; y