Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWN RHAGOM AT BERFFEITHRWYDD.

"Byddwch chwi gan hyny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith."—MATTHEW v. 48

GELLIR darllen yr adnod hon ychydig yn wahanol—fel mynegiad: Chwi a fyddwch gan hyny yn berffaith, &c.' Cynhwysa y darlleniad hwn hefyd annogaeth, oblegyd y mae wrth ddangos y ffordd i ni gyrraedd amcan a choron bywyd, ar unwaith yn ein cymhell i rodio ar hyd-ddi. Y nod ydyw perffeithrwydd. Cyfeiria yr ymadrodd, "gan hyny," i ryw raddau, efallai, at ddysgeidiaeth a thôn y bennod i gyd, ond yn fwyaf arbennig at y bedwaredd adnod a deugain: drwy garu ein gelynion, bendithio ein melldithwyr, &c., ni a ddeuwn "yn berffaith, fel y mae ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith. Canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn." Ymddengys, yn mhellach, nad oes unrhyw le canol rhwng perffeithrwydd a gwarth—rhwng copa a godreu y mynydd. Y mae yn rhaid i ni fod yn berffaith neu fod yn ddim—yn ddim amgenach na phublicanod drygionus a phaganiaid halog—edig: 46, 47. Gweddus ydyw i ni fel Protestaniaid gofio, nad oes yr un safle ddyogel, na chyflwr anrhydeddus, rhwng nef ac uffern. Rhaid ein bod wrth fodd Duw neu wrth fodd y diafol.

Nis gall y safon fydd gan unrhyw ddyn, boed uchel neu isel, lai na dylanwadu arno. Y mae yn bwysig iddi fod yn ddigon uchel, ac efallai y byddai yn well iddi fod, ymhob cylch, yn rhy uchel nag yn rhy isel. Teimlir fod yr adnod hon yn gosod un uchel iawn—mor uchel a Duw: "Fel y mae eich Tad nefol yn berffaith." Oherwydd hynny y mae llawer yn dychryn rhagddi, ac yn cilio oddiwrthi, gan ofyn pa beth a allwn ni, ag ydym mor dywyll a llygredig, wneyd tuagat fod yn berffaith. A thueddir