Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai i ohirio yr ymdrech i fyw y geiriau, hyd nes y cânt eu hunain mewn gwlad lle na bydd eu byw yn gofyn o gwbl am ymdrech. Oblegyd hynny, carwn allu dangos eu rhesymoldeb a chymodi meddyliau credinwyr â hwynt. I. Gellir sylwi fod annogaeth Crist yn y testyn yn gyson â dysgeidiaeth gyffredinol y Bibl, ac â holl oruchwyliaethau y Brenin Mawr. Am berffeithrwydd y mae Efe yn ymofyn yn barhaus, ac y mae yn gofyn am dano oddiwrth bawb ymhob man.

(1) Felly y gwnai mewn Creadigaeth. Galwai i fod fydoedd a ser perffaith, a gosododd y cyfan yn y fath gydberthynas garuaidd a hyfryd, fel y maent yn troi dan ganu o hynny hyd yn awr. Lluniai greaduriaid perffaith—rhai syml a chyffredin i ddechreu, y mae yn wir, per—ffaith er hynny ar gyfer yr amgylchiadau yr oeddynt hwy ynddynt. Dygai o ddydd i ddydd rai mwy ac ardderchocach i fod—nid oherwydd ei fod Ef yn dysgu creu yn well, ond oherwydd fod y greadigaeth yn dyfod yn addas i dderbyn rhai uwch. Ac yn y diwedd, galwodd i fod greadur mor fawr ac urddasol, fel yr oedd Ef ei hun yn gallu ymfoddloni ac ymhyfrydu ynddo.

(2) Felly y gwna drwy amser i gyd yn ei Ragluniaeth. Ar ol y trychineb mawr boreuol, drwy yr hwn y gwnaed hanes dyn mor wahanol i arfaeth Duw, ni adawwyd y ddaear o dan reolaeth y diafol. Yn hytrach, y mae Ysbryd yr Arglwydd yn ymweithio yn barhaus drwy ei thryblith, gan ei dwyn yn raddol i drefn. Ynddo a thrwyddo Ef y mae gwirioneddau bywiol ac egwyddorion uniawn, gyda dylanwadau grymus a galluoedd pureiddiol, yn ymdreiddio yn ddystaw drwy oesoedd a chenedloedd. Trwy ei weith—rediadau Ef, hyrwyddir buddugoliaethau daioni, a gyrir ffurf ar ol ffurf o ddrygioni i ddinystr. Troir cynghorion pob Ahitophel, un ar ol y llall, yn ffolineb. Gorfodir byddin ar ol byddin o gyfeiliornadau ac o ysgelerderau, i farchogaeth i eigion ryw fôr dystrywiol. O fesur ychydig ac ychydig, ymgryfha y goleuni ac ymddiflana y tywyllwch. Cawn fod yr anialwch yn cilio, a bod y llewod a'r seirff yn pellhau. Y mae paradwys yn dychwelyd yn araf dêg yn ei hol. Rhaid i wyneb y ddaear ddyfod, yn gynt neu hwyrach, yn debyg i wyneb y nefoedd: Esaiah xi.