Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni ymdrechu byw yr adnod hon ydyw, cofio pwy llefarodd hi. Iesu Grist, yr hwn a adwaenai ddyn yn well, ac a wyddai fwy am wendidau, temtasiynau, ac anhawsderau pechadur, na phawb ereill ynghyd, a wnaeth hynny. Efe ag oedd yn llawnach o dynerwch a chydymdeimlad na neb arall, a orchymynodd i ni fod yn berffaith. Rhaid, gan hynny, fod yr hyn a ddysgai Ef yn rhesymol. Oblegyd, yn ychwanegol at drigo mewn goleuni, yr oedd Ef ei hun yn oleuni pur—mor bur fel na charwn i ei alw yn feddyliwr nac yn athrylith. Ac eto goddefir i mi ddywedyd ei fod yn meddwl—yn meddwl yn fwy byw a dwfn, ac, ar yr un pryd, yn fwy cyson a chywir, nag y gwnaeth neb erioed. Ni fu neb yn meddwl mor newydd ac mor wreiddiol ag ef, na neb erioed ychwaith pellach o feddwl yn wyllt, neu yn freuddwydiol, neu yn rhamantus nag Ef. Y mae ei holl ddysgeidiaeth Ef yn parhau yn amserol ac yn ymarferol, yn ddoeth ac yn ddichonadwy. Nis gallai Ef anadlu dychymygion barddonol, na gosod i fyny safonau annghyrhaeddadwy. Felly, er na fedrwn ni yn bresennol ddeall pa fodd y gallwn gyrraedd perffeithrwydd, credwn fod hynny yn bossibl, oblegyd fod Iesu Grist yn ein hannog i hynny, ac oblegyd y gall Ef ein cynnorthwyo i fod yn bob peth y mae yn ein cymhell i fod. Trwy dderbyn o hono Ef fywyd a goleuni, nerth a gras, gallwn ddyfod yn fuan yn berffaith mewn uniondeb a gwasanaeth, a dyfod yn raddol yn berffaith mewn gwynfyd a gogoniant, yn hollol wrth ein bodd ni ein hunain ac wrth ei fodd Ef am byth.

II. Tuagat weled rhesymoldeb yr adnod hon, buddiol fyddai i ni, yn mhellach, gofio mai annogaeth i dduwiolion, ac nid i annuwiolion, ydyw. A golyga hynny wahaniaeth mawr. Gan eu bod yn gyfranogion o Grist, y mae y saint mewn cyflwr dyogel ac mewn meddiant o egwyddorion uniawn, ac oblegyd hynny gallant, drwy y moddion ordeiniedig, gyrraedd sefyllfa uwch a rhagorach. Dysgir yn eglur eu bod—

(1) Yn gyfiawn. Nid ydyw y gyfraith yn eu gofyn, ac nis gall eu condemnio byth. Y maent yn ddeiliaid hollol anrhydeddus o lywodraeth y Jehofah. Ni feddylir wrth hyn eu bod yn ddibechod, oblegyd dengys y Bibl drwyddo