Creawdwr ydyw y gwrthddrych yr ymgyfeiriant ato. Er mai cyflwyno i, yn hytrach na derbyn oddiwrth, yr Arglwydd, yr ydym wrth addoli, dylem ystyried fod yn angenrheidiol iddo Ef dderbyn yr hyn a gyflwynwn cyn y bydd yn addoliad; canys y mae Efe mor sicr o dderbyn pob peth sydd, ag ydyw o wrthod pob peth nad ydyw, yn addoliad. Yn awr, mewn trefn i ddal cymundeb â dyn neu â Duw, y mae dau beth yn angenrheidiol: Un ydyw adnabyddiaeth. Caniateir yn ddiau fod cymdeithasu, yn yr ystyr o garu, ymddiried, ac ymhyfrydu, yn annibynol ar adnabyddiaeth, yn annichonadwy. Y llall ydyw cyd-ddealltwriaeth neu gydnawsedd. Rhaid bod y ddau i ryw raddau o dan lywodraeth yr un egwyddorion, ac yn ym- gyrhaedd at yr un amcanion. "A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytun?" Gwelir yr angenrheidrwydd am yr elfen olaf wrth ystyried ein bod, tra yn gwybod llawer am wrthddrychau y greadigaeth, ar yr un pryd yn analluog i ddal cymdeithas â mynydd neu fôr. Yn debyg i fesur gyda golwg ar anifail, yr hwn sydd yn greadur uwch na mynydd. Er fod y meddiannydd yn adnabod ei ŷch, a bod yr ych yn adnabod ei feddiannydd, nid oes digon o gyd-ddealltwriaeth a chydymdeimlad rhyngddynt i gyn- nyrchu dim y byddai yn briodol ei alw yn gymundeb. Ac onid adwaenom ambell i ddyn, yr hwn, er nad ydym yn ei gasâu, sydd o ran tueddiadau ac arferion mor groes i ni, fel nad ydym yn hiraethu am weled ei wyneb yn un man? Yn unol â hyn, rhaid i ni, mewn trefn i allu addoli, fod yn adnabod yr Arglwydd, a bod yn alluog, i ryw raddau, i garu ac i gasâu y pethau y mae Efe yn eu caru ac yn eu casâu. A ydyw dyn felly? A ydyw yn gweled yr anweledig ac yn ymhyfrydu yn yr un pethau â Duw? Bu hyny yn wir am dano unwaith. Ar y cyntaf, adwaenai a charai ei Greawdwr, a daliai drwy hyny gymdeithas ddigyfrwng âg Ef. Ymddyddanent ac ymrodient ynghyd megys cyfeillion. Pan ddaeth dyn yn bechadur, dyrysodd y cyfan. Daeth y goleuni oedd ynddo yn dywyllwch, a throes ei gariad yn elyniaeth. Ymddirywiodd ei ufudd- dod i anufudd-dod, ac ymnewidiodd ei ffyddlondeb yn wrthryfel. Daeth cymundeb rhyngddynt, mewn canlyniad,
Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/15
Gwedd