berffaith o fewn ac yn berffaith o faes—wrth eu bodd eu hunain ac wrth fodd Duw; a chânt eu hunain cyn hir mewn byd perffaith. 1 Ioan iii. 6 a 9; Heb. xii. 22 -24, &c.
III. Daw rhesymoldeb yr adnod hon yn eglurach wrth i ni ystyried fod y Testament Newydd yn son am dri math o berffeithrwydd: perffeithrwydd natur neu gyfansoddiad, perffeithrwydd tyfiant neu ddadblygiad, a pherffeithrwydd mewn gwaith, neu gymhwyster mewn creadur i ateb dyben ei fod. Gwelwn y cyntaf mewn oen neu ebol bach, yr ail mewn march porthiannus, pedair neu bump oed; a'r trydydd mewn march wedi cael ei ddysgyblu yn briodol nes y mae yn cludo ei farchog yn ol ei ewyllys, ac yn tynu ei lwyth yn llwyddiannus i ben yr allt. Ceir tri gair gwahanol am y tri math hyn. Defnyddir (1) y gair am y rhywogaeth flaenaf yn lled fynych yn nghyfieithiad y Deg-a-thriugain; ond tair gwaith y cyfarfyddwn ef yn y Testament Newydd—yn Act. iii. 16; 1 Thess. v. 23, ac yn yr adnod ganlynol: "Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan." Dyma y gair—cyfan, ac eglurir ei ystyr yn niwedd yr adnod—"heb ddiffygion mewn dim." Felly, wrth ddysgu fod unrhyw greadur yn gyfan, meddylir ei fod o ran ei gorff yn lluniaidd, heb ry fychan na gormod o aelodau, fod holl organau ei natur ynddo, a bod pob un yn gwneyd ei gwaith. Yr un arwyddocad sydd iddo pan gymhwysir ef at enaid neu gymeriad; daw y duwiol i feddiant o'r perffeithrwydd hwn ar unwaith—wrth ddyfod yn dduwiol. Y mae o'r dechreuad yn greadur ysbrydol mor gymhesur, fel nad ellir ychwanegu ato na thynu oddi wrtho, Nis gellir ei wella yn y golygiad hwn. Saif y perffeithrwydd hwn yn gyferbyniol i anaf; ac y mae baban yn feddianol arno; o drugaredd, eithriad fawr mewn gwlad yw plentyn anafus. Yn gyffelyb gyda golwg ar blant Duw, y maent i gyd yn rhai dianaf. Gall y credadyn fod yn ieuanc iawn, yn fychan iawn, ac yn wan iawn; ond nis gall fod yn afluniaidd ac anmherffaith. Y mae wedi cael ei eni drachefn, oddiuchod, o Dduw, ac wedi cael ei adgenhedlu i obaith bywiol; a rhaid ei fod yn gyfan, ac yn rhydd oddiwrth bob diffyg. Dygir yr enaid i'r sefyllfa hon ar