Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dysgu, "beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw." Dylent wrth ymarfer â llaeth" ddyfod yn alluog i gymeryd "bwyd cryf," a thrwy hynny yn alluog i gyf—lawni gweithredoedd teilwng—er lles eu rhyw ac er gogoniant eu Harglwydd. Defnyddir y gair yn fynych yn y Testament Newydd; 1 Cor. ii. 6; Eph. iv. 13; Phil. iii. 12 a 15; Col. i. 28, &c. Ystyr "rhai perffaith" weithiau ynddo ef yw dynion ysbrydol, sanctaidd, ëang eu dirnadaeth ac uchel eu profiad, mewn cyferbyniad i rai anianol, gweiniaid, tywyll, cnawdol; ac annogaeth i ni ymestyn am y sefyllfa gyntaf ydyw y testyn. Cawn feddwl Crist yn y geiriau canlynol, "Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon; ac i ffydd tuagat Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac ar—ddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol." (Gwel Heb. v. 12—14, a vi. 1, 2.) Golyga brydiau ereill "dadau" yn gyferbyniol i "wŷr ieuaingc a "rhai bychain" (1 loan ii. 12-14). Cymhellir ni i ymestyn am fwy o ddoethineb a chadernid. Nid oes un rheswm dros i blant Duw, er iddynt fod yn rhai ieuainc, fod yn blentynaidd, yn ddaearol, ac yn fydol, yn amddifad o amynedd, ac yn brin o burdeb. Dyma y rhai perffaith—rhai cynnefin "â gair cyfiawnder," "rhai o herwydd cynnefindra y mae ganddynt synwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da." Prif syniad y gair yn ddïau ydyw—aeddfedrwydd; perffeithrwydd dyn wedi cyrraedd i oed a maint, i nerth a harddwch, yw yr ail. Tybia y blaenaf fod pob gras ac egwyddor sanctaidd a fydd yn y credadyn yn y Nef, ynddo yn eu had o'r dechreuad; golyga y llall fod ei rinweddau wedi ymagor, a chyrraedd mesur helaeth o rymusder a dylanwad—fod y baban wedi dyfod yn ddyn. Fel y cyfryw dylai amlygu nodweddion gwr: (1) ffydd gref a dianwadal, fywiog a thawel; (2) mesur gweddus o ddoethineb a barn; (3) sancteiddrwydd yn cynhyrchu uniondeb, parch i wirionedd, ffyddlondeb, eiddigedd yn erbyn pob math o ddrygioni; (4) cariad yn marweiddio yn ei galon genfigen, llid, a malais, ac yn meithrin ynddi amynedd a gostyngeiddrwydd, ac yn tori