Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan mewn addfwynder a chymwynasgarwch, mewn ymgysegriad a hunanymwadiad; (5) nerth—gallu i gyflawni gweithredoedd rhagorol dros ac i gario dylanwad bendithiol ar ei gyd-ddynion,—cadernid i ymgynnal o dan gyfrifoldeb, i ddal ymosodiadau, ac i wrthsefyll temtasiynau,—gwroldeb i ymladd â gelynion ei enaid, ac i orchfygu y cyfan drwy Dduw; (6) ysbrydolrwydd meddwl, cymundeb â Christ, llawenydd yn yr Ysbryd Glân, profiad o dangnefedd Duw, a mwynhad o obaith gogoniant y Nef. Byddai cynnydd yn y pethau hyn yn gynnydd mewn perffeithrwydd. Mor werthfawr fyddai dynion meddianol ar y fath gymeriad! Byddent mewn gwirionedd yn oleuni y byd ac yn halen y ddaear. Pe lluosogent yn gyflym, caem ein hunain yn ebrwydd yng nghanol sancteiddrwydd y Mil Blynyddoedd. "Byddwch chwi gan hyny yn berffaith." Gorchwyl caled yw hyn; ond y mae yn ddichonadwy; ac y mae yn ol mesur ein ffydd, yn hawdd. Bydd i ni gynnyddu ymhob rhinwedd yn ol ein gallu i dderbyn o Grist. Bydded i ni, o ganlyniad, ymroddi i wyliadwriaeth ac ymdrech, "Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: fel na byddom mwyach yn blantos yn bwhwman, ac yn ein cylch—arwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo."

(3) Cyrhaedda y saint un math arall o berffeithrwydd: drwy iddynt fel plant Duw dderbyn ymgeledd ac ymarferiad priodol, deuant yn feibion Duw, a thrwy iddynt fel y cyfryw wneuthur defnydd addas o ordinhadau yr Efengyl, deuant yn weithwyr i a thros Dduw, ac yn gyd-weithwyr ag Ef yn iachawdwriaeth eu cyd—ddynion. Un waith y cyfarfyddwn y gair am y trydydd math yn y Testament Newydd: 2 Tim. iii. 17; a chyrhaeddwn y perffeithrwydd hwn drwy yr Ysgrythyr. Trwyddi hi, yn wir, y dygir y plentyn ysbrydol i fod yr ailenir ef (1 Petr i. 23), a thrwyddi hi y mae yn cynnyddu yn ddyn ysbrydol (1 Tim. iv. 15), a thrwyddi hi y cymhwysir ef yn mhellach i ateb dyben ei greadigaeth ac amcan ei achubiaeth. Dysgir ni fod pob Ysgrythyr yn ysbrydoledig gan Dduw, ac felly yn "fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi (yn