ymgyrhaedd am ffydd fwy dïanwadal, am gariad cryfach, profiad uwch, a gwasanaeth mwy effeithiol. Calonogir ni yn ein hymdrech am danynt gan eiriau fel y rhai can—lynol: "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn, canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef" (Phil. xii. 13), oblegyd i weithio allan, ac nid i lunio iachawdwriaeth i ni ein hunain yr annogir ni ynddynt. Gorchwyl digalon iawn fuasai ceisio gwau cyfiawnder i ni ein hunain, a golchi ein heneidiau sydd yn halogedig drwyddynt. Cymaint sydd yn eisiau ydyw, estyn ein dwylaw fel y nofiedydd i nofio yn môr, neu chwareu ein hadenydd fel eryrod yn awyr yr iachawdwriaeth. Gan fod Duw yn gweithio ynom, bydded i ni weithio allan; gallwn drwy ei ras Ef gyflawni ein dyledswyddau ein hunain, a derbyniwn drwy hyny fendithion newyddion. Rhaid i ni gredu y ddwy adnod; pe gweithredem ar y flaenaf yn unig, enillem foesoldeb, parch ein cyd-ddynion, a safle weddol anrhydeddus ar y ddaear; ond ni chyfranogem o sancteiddrwydd; nid ymddiriedai angylion ynom, ac ni chyrhaeddem y Nef o gwbl. Trwy i Dduw weithio ynom, y gallwn ni weithio allan; a dïau fod y gosodiad cyferbyniol yn wir—mai drwy i ni weithio allan yr hyn sydd ynom, y gallwn ni dderbyn mwy i mewn. Pe gweithredem ar yr adnod olaf yn unig, troem ras ein Harglwydd i drythyllwch, a sugnem farwolaeth i ni ein hunain o ffynnon bywyd ei hun. Trwy gredu y ddwy y gallwn fyw a chyflawni gwasanaeth teilwng dros bechaduriaid ac er gogoniant eu Hiachawdwr. A hyfryd fyddai gwrandaw tua therfyn y daith, ar ddynion ac angylion yn cyd-dystiolaethu ein bod wedi ymdrechu ymdrech dêg, a chlywed Duw yn cyhoeddi uwch ein penau, "Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd."
Byddwch chwi, gan hynny, yn berffaith—fel dynion; rhywbeth mawr a fyddai cyrraedd y sefyllfa oreu, fwyaf effeithiol, a mwyaf anrhydeddus a bendigedig, sydd yn agored i ddynion; ond annogir ni i ymestyn am safle uwch—"fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith." Ac ystyr hyn, yn ol fy meddwl i, ydyw,