Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYWYD FY YSPRYD I.

"Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy yspryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi."—ESAIAH XXXviii. 16.

YN rhan flaenaf y bennod hon (1-8), mynegir hanes clafychiad ac adferiad gwyrthiol Hezeciah, a chawn fanylion ychwanegol am yr amgylchiadau hyn yn 2 Bren. xx. 1-11. Ysgrifenodd y brenin ar ol gwella, hanes ei enaid, a phrofiadau a gweddïau ei galon, yn ei gystudd, fel y gallent fod o wasanaeth iddo ar ol hynny. Cynhwysir hwy yn 9—14. Y mae yr adnodau dylynol (15-20) yn ymffurfio yn salm o ddiolchgarwch a mawl. Cofnodir ynddynt syniadau a bwriadau ac addewidion ei ysbryd dan effaith yr adgofion am ei glefyd, ac yn y mwynhad o waredigaeth mor ryfeddol. Y mae y testyn ar hyd y bennod hon yn ddrwg, ac adnod doredig iawn yw yr 16eg; ond gwnaeth y cyfieithydd ei waith arni yn bur foddhaol. Cyfeiria at y 15eg: "Canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna,"—addawodd a chyflawnodd. A thrwy hyn—drwy y trugareddau a gyfrana yr Arglwydd, ar y naill law, a thrwy ymrodiad "araf "—gwyliadwrus a dichlynaidd, eu derbynwyr, ar y llall, y mae dynion, mewn ystyr naturiol, yn byw ac yn ymadfywio o bob clefyd a chystudd. Yn gyffelyb, drwy y bendithion a drosglwydda Duw o hono ei hun i eneidiau drwy eu ffydd hwynt, y derbyniwn hefyd y bywyd uchaf oll—bywyd ysbrydol a thragwyddol. yn yr holl bethau hyn," neu ynddynt hwy yn unig neu yn hollol," y mae bywyd fy yspryd." Cyfrana Yspryd bywyd" (Dat. xi. 11) fywyd ysbryd i bechaduriaid; ond nid ydyw daioni dwyfol yn dileu yr angen am ofal ac ym—drech ddynol.

"Bywyd fy yspryd i"—ymddysgleiria yr ymadrodd hwn, o ganol mesur o aneglurdeb, i olwg pawb mewn prydferthwch digyffelyb. O holl ymadroddion grasol a newyddion—byth newyddion yr Ysgrythyrau, ni cheir