Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn annichonadwy. "Canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch ?" Byddai dysgwyl i ddyn annuwiol addoli yr Arglwydd yr un peth a dysgwyl i elyn Duw ei garu. Rhaid iddo, mewn trefn i allu gwneuthur hyny, brofi rywbeth tebyg i gynnwysiad yr addewid gan- lynol: "A'r dydd hwnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyll- wch." Gyda chlust enwaededig, clyw "lais y nef" yn nghanol "holl leisiau'r greadigaeth." Gyda llygaid wedi eu hagoryd gan yr Ysbryd Glân, gwel, nid moroedd a mynyddoedd, ond bydoedd newyddion a llawnion o fywyd a gogoniant. Cenfydd brydferthwch cariad a sancteidd- rwydd. Daw sylweddau mawrion tragwyddoldeb yn wrthddrychau gwirioneddol ger ei fron, a chaiff ei hun yn aml yn syllu ar Dduw ei hunan. Gan nad i ba gyfeiriad y try ei olygon-ai Creadigaeth ai Rhagluniaeth neu Iachawdwriaeth, gwel drwy y cyfan Greawdwr a Thad. Mewn geiriau eraill, rhaid i bechadur, mewn trefn i allu addoli, gael ei eni oddiuchod, a thrwy gael ei eni oddi- uchod, ei wneuthur yn gyfranog "o'r duwiol anian". hyny yw, anian ddwyfol. Fel y mae plentyn a enir o rieni naturiol yn cyfranogi o natur a bywyd ei rieni, y mae dyn a enir o'r Ysbryd, mewn rhyw ystyr ac i ryw raddau, yn cyfranogi o natur a bywyd y Jehofah ei hunan. Gwneir ef mewn ystyr arbenig yn "hiliogaeth Duw." Yna, yn ychwanegol at weled ac adnabod, y mae yn teimlo a gweithredu. Yn yr olwg ar sylweddau tra- gywyddol, y mae yn ofni ac yn llawenhau, yn edifarhau ac yn molianu. Wrth edrych ar yr Arglwydd, llenwir ei galon â chariad a syndod, â diolchgarwch a gorfoledd. Ymbletha ei deimladau am briodoliaethau yr Anfeidrol. A gallwn yn awr ddarlunio addoliad fel gwaith y dwyfol yn y creadur yn ymgodi at y Dwyfol yn y Creawdwr. Tra mai wrth weled a theimlo Duw y gall dyn addoli yn wirioneddol, addas, yr un pryd, ydyw ystyried mai nid yr un olwg a gaiff y credadyn bob amser arno. Bydd rhai priodoliaethau yn amlycach heddyw, a rhai eraill yfory. Ond bydd i bob priodoledd a wêl, ddeffro yn ei enaid alluoedd a theimladau cyfatebol iddi hi ei hun.