odid yr un mwy goludog a bendigedig na hwn. Deil gydmhariaeth â "goleuni y bywyd" yn Ioan. A phe cawsid un cyffelyb iddo mewn unrhyw lyfr dynol, buasai llenorion anianol y byd yn son yn ddiddiwedd am dano. Y mae yn esiampl arbenig o gyfoeth ac o allu y Bibl i ymagor ac ymddyrchafu, i ganlyn cynnydd a dyrchafiad pob cenedl a chyfnod. Gwel pob dyn rywbeth yn yr ymadrodd hwn: ni wêl yr un dyn y cwbl sydd ynddo. Canfyddai gwladwr eyffredin ryw ardderchowgrwydd yn un o ddar—luniau Turner; ond canfyddai arlunydd, gyda llygaid diwylliedig, lawer iawn mwy ynddo. Felly hwnyma, y mae o ran ei ystyr yn ymëangu ac yn ymddyfnhau yn barhaus, yn ol fel y mae llygaid y ddynoliaeth yn ymloewi ac yn ymgryfhau i edrych i fewn iddo. Boddlonai ddyhëadau uchaf oes seml, anllythyrenog, Hezeciah; gwel saint cryfion a choeth yr oes ddysgedig ac athronyddol hon fwy na digon ynddo; a chaiff ysbrydoedd dyrchafedig y Mil Blynyddoedd ddyfroedd nofiadwy ynddo.
I. "Bywyd fy yspryd i": dyma un o fendithion mawrion yr Efengyl i bechaduriaid—bywyd; a hi yn unig sydd yn cynnyg y fath nwydd gwerthfawr am arian neu am ddim. Gwahodd trigolion y ddaear i dderbyn bywyd y mae ymhob oes a thrwy bob iaith. Geilw ar ddynion byw i gyfranogi o fywyd: onid yw ei holl wrandawwyr hi yn fyw? Pa briodoldeb sydd yn hynny? Y mae yn ymddygiad hollol resymol, oblegyd y mae mewn dyn awydd am barhad, ac am feddu mwy o bob bywyd sydd ynddo; ac y mae yn nyfnder enaid llawer un ddymuniad am fywyd ag y mae yn gwbl amddifad o hono. Y mae y ddau gyntaf yn naturiol; ond yn mha ystyr y mae un bywyd yn awyddus am fywyd arall, neu y gall un creadur chwennych bod neu fyned yn greadur arall? Awgrymir rhywbeth tebyg i hynny yn y Bibl: Rhuf. viii. 19-23: onid ydyw y greadigaeth—mynyddoedd a dyffrynoedd, yn hiraethu am gyflwr uwch ac am sefyllfa ragorach? Os ydynt, gwnant hynny yn ddystaw iawn. Duw yn unig sydd yn deall ubain coedwigoedd a chyfandiroedd. Os ydyw mwsog a throellgoryn yn ymofidio am na buasent yn blodeuo ac yn perarogli, nid ydyw dyn yn clywed eu hocheneidiau. Y mae ef ei hun yn anesmwyth ac yn