boenus—yn blino yn barhaus arno ei hun Nid ydyw grug a rhedyn yn ymddangos mewn unrhyw ing oblegyd na buasent yn balmwydd neu yn ffynnidwydd. Y mae pechadur yn ymgnoi ac yn ymlosgi yn aml am na buasai yn rhywbeth mwy ardderchog nag ydyw. I bob golwg, y mae eithin yn hollol foddlawn ar y natur a roddodd eu Creawdwr iddynt; ac nid ydyw mïeri yn ymddigio oherwydd na buasent yn dderw neu yn gedrwydd. Gwnawn ni lawer o rywbeth tebyg i hynny; gan nad ydym yn hyn neu arall yn gyfoethog neu yn enwog, ni fynwn fod yn ddim. Creadur dyrus, llawn o anghysonderau, ydyw dyn; gydag uchelgais gref a dyhëadau dyfnion, y mae ynddo dueddiadau grymus i ymddirywio. Gyda chwantau gwylltion sydd yn ei dynu i gyfeiriad yr anifail, y mae ynddo awydd angerddol i fod yn gerub. Duw yn unig sydd yn alluog i ddeall ac i ddiwallu pechadur. Efe a ddichon ddarllen ei anghenion dyeithr, a deongli ei ddymuniadau poethion. Ac y mae, oddiar gyfoeth ei drugaredd, yn ei wahodd yn barhaus yn yr Efengyl i dderbyn bywyd newydd, iach, a wna o hono greadur sanctaidd, dedwydd, a gogoneddus.
Gwyddom rywbeth am wahanol rywogaethau o fywyd. Mewn un pegwn, cawn y bywyd llysieuol. Y mae hwn, er yn lanach a phrydferthach na ni, yn mhell islaw i ni. I raddau bychain iawn y gallwn gyfranogi o hono ef. Gall ein cyrff dderbyn cynnaliaeth o hono, a gall ein heneidiau. dderbyn hyfrydwch oddiwrtho; ond nid ydyw yn perthyn i ni. Nis gallwn drwy unrhyw foddion droi yn llysiau. Yn y pegwn cyferbyniol, y mae y bywyd dwyfol, Y mae hwn gymaint uwchlaw i ni, fel nas gellir drwy unrhyw ymgeledd ein gwneyd yn gyfranogion o hono—o fywyd arbennig y Jehofah. Nis gallwn, o ganlyniad, byth dyfu yn dduwiau. Gall dyn feddu tri math o fywyd—yn ei gorff, yn ei enaid, ac yn ei ysbryd: bywyd anianyddol—yr un un ag sydd yn yr ych ac yn y march; bywyd anianol, a bywyd ysbrydol. (1) Medd pob dyn sydd ar y ddaear y cyntaf; ac nis gall, gan nad faint o bechadur ydyw, golli hwn, tra bydd anadl ynddo. Trwy hwn y mae yn bod, yn symud, ac yn gweithio; ac, er nad yw wrtho ei hun yn ddigon i ni, y mae gwerth mawr arno. Gwyn