Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fyd y gwr sydd yn meddu mesur helaeth o hono! Ymdraidd yn ysbrydiaeth hyfryd drwy ei natur i gyd. Ymffurfia yn wallt ar ei ben, yn loewder yn ei lygaid, yn wrid ar ei ruddiau, yn nerth yn ei ewynau, ac yn nwyfiant drwy ei holl gyfansoddiad. Er hynny, os nad oes genym un arall, y mae trychineb wedi cymeryd lle yn ein hanes,—rhaid ein bod wedi colli un arall, pwysicach. Er mai nid un bywyd a roddodd Duw i ddyn, y mae colli un yn amgylchiad difrifol. Tybia ddau beth: dyfodiad i fewn yn gystal a mynediad allan. Wrth iddo ef fyned allan o greadur, ymweithia llygredigaeth ar unwaith i fewn iddo. Y mae enciliad bywyd yn ddechreuad dirywiad a dadgyfansoddiad. O dan yr amodau hyn o amddifadrwydd o fywyd glân ac o arglwyddiaeth drygioni, y cais pechadur ymlwybro drwy y byd. Felly, os nad oes ynom ni fywyd rhagorach nag sydd yn y march, rhaid fod ynom elfenau mwy ysgeler nag sydd ynddo ef. Os nad oes ynom fywyd ardderchocach nag sydd yn yr oen, prin y gall yr un o honom fod mor ddiniwed ag oen. Nis gall dyn ymddirywio hyd at fod yn anifail, ac aros yn anifail; rhaid iddo fod yn rhywbeth uwch neu yn rhywbeth is nag anifail. Onid ydyw yr anifail a anwyd yn ddyn yn fwystfil? Onid ydyw y bwystfil a fu yn ddyn—yn ddiafi? Gweddus ydyw i ni ystyried hyn, ac ymddifrifoli wrth ben y mater. Ymddengys i mi mai y defnydd goreu allwn ni wneyd o fywyd anianyddol ydyw, ei dreulio i ymofyn am gwell.

(2) Medd pechadur rhyw fath o fywyd yn ei enaid. Er nad ydyw ef yn alluog i weled ac adnabod sylweddau ysbrydol a dwyfol, y mae yn deall ac yn barnu gyda llawer o gywirdeb bethau amserol a bydol. Er iddo fod yn Nabal gyda golwg ar y Nef, gall fod yn Solomon gyda golwg ar y ddaear. Y mae ynddo fwy neu lai o allu i ddewis a gwrthod, i garu a chashau. Y mae ei natur yn gyforiog o deimladau byw, o wyniau cryfion, ac o nwydau angerddol, y rhai a ymweithiant yn achlysurol drwy ei aelodau i bob ffurf o lygredigaeth a gwaradwydd. Cynhyrchant ynddo weithiau dymhestloedd a gythryblant ei gyfansoddiad hyd ei waelodion. Ymffurfiant ar brydiau yn dân yn ei enaid, yr hwn a ysa ei nerth, a lysg ei serchiadau,