eryr. Rhagora gymaint ar yr anianol ag y gwna y nefol ar y daearol, neu yr angel ar y pechadur. Efe ydyw yr unig un ag y mae yn werth gan y Bibl ei alw yn fywyd (1 Ioan v. 12). Beth a wyddom am dano? Carwn, mewn trefn i feithrin ynom fwy o awydd am dano, egluro ychydig arno. Pa faint a wyddom am fywyd mewn ystyr gyffredinol? Y mae yn debyg mai yr hyn a dynai sylw gyntaf ynddo ef, fel pethau ereill, oedd rhyw deithi neu gynneddfau perthynol iddo. Wrth i ddynion weled y rhai hynny, deffroid eu chwilfrydedd, ac arweinid hwy (yn unol â gweithrediad naturiol y meddwl, drwy yr hyn y mae athroniaeth yn dechreu yn fynych mewn rhyfeddod) wrth syllu ar dyfiant, cyfnewidioldeb, prydferthwch, bywyd,—i wneuthur ymofyniadau pellach yn ei gylch. Gofynent pa fodd y dechreuodd, neu o ba le y tarddodd; a gofynai ambell un pa beth ydyw. Ond gan nad faint o ystyriaeth a gafodd y pwnc hwn mewn amserau a aethant heibio, ni dderbyniodd erioed gymaint ag yn yr oes hon. Bywyd—yddiaeth ydyw un o wyddorau penaf y ganrif hon. Wele dri o faterion: tarddiad, natur, a nodweddion bywyd—ysbrydol yn gystal a naturiol; ond materion ydynt, yn arbennig un o honynt, ag y mae yn bur anhawdd traethu llawer o wirionedd sicr arnynt. Ymdrechaf daflu allan rai awgrymiadau cywir yn eu cylch.
1 Tarddiad bywyd ysbrydol.—Tueddir meddwl dyn i ryw raddau ymhob oes a gwlad, i ymdrechu olrhain dech—reuad ac achosion pethau, ac y mae ei ymdrech erbyn hyn wedi ei choroni â mesur helaeth o lwyddiant. Y mae wedi darganfod ffynhonnell llawer afon—yn nghors a dagrau brwyn y cwm. Y mae wedi bwrw ar ymddang—osiadau dyeithrol a ddychrynent ein henafiaid, lewyrch mor gryf fel yr ymddangosant i ni yn hollol naturiol. Nis gall hen farddoniaeth anian ddal golygon tanbaid Gwydd—oniaeth. Nid oes mwyach ysbryd yn y mynydd, na Thylwyth Teg yn y dyffryn. Yr un pryd, er ei holl fuddug—oliaethau, nid ydyw y meddwl dynol, er ceisio ei oreu yn hir, wedi gallu hyd yma esbonio tarddiad a chychwyniad bywyd. Nid ydyw, yn ei nerth ei hun, wedi llwyddo i daflu nemawr o oleuni ar y mater hwn. Deallwn i gyd mai o fywyd yn unig y gall bywyd hanu, ac nis gwyr