Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athronwyr lawer chwaneg yn y cyfeiriad hwn. Cyflwynasant hwy, o bryd i bryd, nifer luosog o dybiau i sylw y byd o berthynas i hyn; ond ychydig o honynt a dderbynir heddyw fel gwirioneddau diamheuol. Cyferfydd y gwyddonwyr hynny ag ydynt yn gwrthod, neu yn ddyeithr i, ddysgeidiaeth y Bibl ar y pwnc, ag anhawsterau mawrion; cânt eu hunain yn aml mewn tywyllwch; gwrthwynebant eu gilydd a gwthddywedant eu hunain yn fynych, yn yr oes hon. Iddynt hwy, y mae y cwestiwn o berthynas i ddechreuad bywyd, yn bygwth profi yn un anatebadwy.

Ar y llaw arall, y mae yr ymofyniad hwn i bawb a dderbyniant yn grediniol ddatguddiad yr Ysgrythyrau, yn un cydmhariaethol hawdd. Y datguddiad hwnnw ydyw, fod y bywyd uchaf oll—y Bywyd Dwyfol, yn ddiddechreuad, ac mai Duw ydyw achos a ffynhonnell pob rhyw a math arall o fywyd yn y nefoedd ac ar y ddaear, "Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd." Fel mai Efe a ddygodd y greadigaeth i fod, Efe hefyd a anadlodd yn ei ffroenau hi anadl einioes, ac a ddygodd drwy hynny bob creadur a llysieuyn i fod. A chyda golwg ar fywyd ysbrydol, o hono Ef mewn modd arbennig y deilliodd hwn. O hono Ef y tarddodd pob bywyd; ond tarddodd hwn o ddyfnderoedd pellach ac is ynddo nag unrhyw un arall; oblegyd hynny y mae yn rhagori ar bob un arall. Blagur ei nerth yw y bywyd llysieuol, ac anadl ei ddoethineb yw y bywyd anifeilaidd; ond y mae yr ysbrydol yn anadl ei galon, yn oleuni ei feddwl, yn wres ei gariad, yn brydferthwch ei sancteiddrwydd. Dyma fywyd goreu y Nef; ymlifa ini o Dduw ei hun. Erbyn hyn, y mae y bywyd hwn, nid yn eigion pell yr hanfod ddwyfol, ond yn yr agosrwydd mwyaf atom—yn Iesu Grist. Ystyrier yr ysgrythyrau canlynol: Ioan i. 4, iii. 16 a 36, vi. 40, 47, 48, 51, 54, 57, x. 10, xvii. 3; Gal. ii. 20; Col. i. 19, ii. 9, &c. Awgrymant luaws o gwestiynau, ac ni byddai yn hawdd egluro pa fodd yn fanwl y mae bywyd yr Iesu yn dyfod yn fywyd i ni; ond y mae y ffaith ei fod yn amlwg. Y mae y dynion sydd yn credu ynddo, yn cyfranogi o hono—o fywyd yn gystal ag o gyfiawnder y Gwaredwr. Sugnant bron yn ddïar—wybod iddynt eu hunain, oleuni a chariad, nerth a thangnefedd, allan o hono. Ymegyr eu heneidiau wrth ymddiried