Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo a chymdeithasu ag Ef, i sancteiddrwydd a phrydferthwch rhyfeddol. Tyfant yn feunyddiol mewn tebygolrwydd ac ymgysegriad iddo, a thyfant yn y diwedd i wynfyd a gogoniant tragwyddol: "A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i."

2. Natur bywyd ysbrydol.—Gan nad faint o rwystrau sydd ar ein ffordd i olrhain tarddiad bywyd, cyfarfyddwn rai lluosocach a mwy wrth geisio egluro ei natur. Ni lwyddodd neb erioed i wneuthur hynny, ac nis gall dyn anturio ar orchwyl caletach, Y mae bywyd fel yr enaid—y peth mwyaf adnabyddus i ni, a mwyaf dyeithr i ni—agosaf atom, a phellaf oddiwrthym. Ei natur ef yw cyssegr sancteiddiolaf anian; ac hyd yn hyn ni threidd—iodd yr un offeiriad i fewn iddo. Gallwn yr un pryd, er mor anwybodus raid fod pawb o honom yn ei gylch, synied rywfaint am dano.

"Bywyd fy yspryd i"—pa beth ydyw? Gan nad beth yw, rhaid ei fod yn symud ymaith yr hyn a achosodd farwolaeth yr enaid ar y cyntaf. Yn gynt neu hwyrach, y mae yn rhwym o ddileu pechod, ac felly y mae o angen—rheidrwydd yn tybied maddeuant. cyfiawnhad, mabwysiad. Yn mhellach, gan mai oddimewn, mewn modd arbennig, y mae eisteddle bywyd, ac mai at gyfnewidiadau yn nghyf—lwr allanol pechadur y cyfeirir yn y geiriau diweddaf, rhaid ei fod yn cynnwys rhywbeth ychwanegol. Goddefir i mi hwyrach ei alw yn egwyddor newydd, sanctaidd, lywodraethol, yr hon sydd yn bywhau yr ysbryd, yn cyf—eirio gweithgarwch y galon, yn cynhyrchu teimladau pur ac amcanion dyrchafedig, ac yn achosi ymarweddiad difrycheulyd a chymeradwy. Gallwn, er lleied a wyddom am dano, daflu rywfaint o oleuni arno drwy eiriau fel y rhai canlynol:—

(1) Y mae o ran ei natur yn ysbrydol ac yn sanctaidd. Gan ei fod yn fywyd, rhaid ei fod yn bur—y mae pob gwir fywyd felly; a chan mai bywyd ar gyfer ysbryd ydyw hwn, rhaid ei fod yn sanctaidd, yn gystal ag yn ysbrydol, o ran ei ansawdd. Cyferfydd, o ganlyniad, ag eisiau mwyaf a phenaf pechadur, oblegyd y mae wrth ymweithio i mewn iddo, yn diwallu anghenion ac yn