Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydd cysondeb rhwng ansawdd ei galon a natur y dad- guddiad a gaiff. Oblegid hyny y mae yn perthyn i addoliad, er ei fod o ran ei hanfod yn un, amrywiol agweddau; ac y mae yr Arglwydd drwy hyny yn canfod ynddo adlewyrchiad o egwyddorion ei gymeriad Ef ei hun. Dichon y byddai engraifft neu ddwy yn foddion i wneuthur hyn yn eglurach. Cawn ddwy wedd arbenig ar Dduw. Y naill ydyw ei fawredd, ei allu, hollwybodaeth, tragwyddoldeb, anfeidroldeb, cyfiawnder, sancteiddrwydd, digofaint, ofnadwyaeth; y llall ydyw ei ddaioni, cariad, graslonrwydd, trugarogrwydd, maddeugarwch, tosturi, amynedd, ffyddlondeb. Gwelir y ddwy drwy y geiriau canlynol: "Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel." Arddunedd hwyrach yw y gair sydd yn cyfleu y syniad mwyaf clir a chyflawn am y cyntaf. Y gair mwyaf priodol i osod allan yr olaf ydyw prydferthwch neu hawddgarwch.

I. Arddunedd Duw:-Amlygir hyn mewn gwahanol ffyrdd. Cawn ddadguddiad eglur ohono drwy y greadig- aeth. Oblegid y mae ynddi gynifer o fydoedd, a bydoedd mor fawrion; y mae hi yn gyfryw o ran ëangder ac amrywiaeth, mor gyfaddas i ateb ei dybenion, ac mor gyflawn o ddarpariadau ar gyfer y gwahanol rywogaethau o fywyd sydd ynddi, fel y gwesgir ni yn yr olwg arni i gredu fod mawredd, gallu, a doethineb ei Hawdwr yn anchwiliadwy. Gyda golwg ar gyfiawnder a sancteidd- rwydd, fel y maent yn briodoliaethau hanfodol yn ei natur, hwynt-hwy yw egwyddorion sylfaenol ei lywodraeth: wrthynt hwy y mae Efe ei hun yn byw, ac yn eu hol hwy y mae yn rheoli ei holl greaduriaid. Canfyddir i fesur bychan ddigofaint yr Anfeidrol drwy amgylchiadau fel y diluw a dinystr dinasoedd y gwastadedd; a phrofir ei ofnadwyaeth gan ddynion a chythreuliaid yn uffern. Mewn ymadroddion mor ardderchog y gosodir allan fawredd Duw yn y Bibl! Wele ychydig o esiamplau: "Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt; yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd. Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â'i rychwant? Wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. Ti hefyd wyt Dduw o dragwyddoldeb