Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd dragwyddoldeb. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? Cyfuwch a'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr. Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a'r Hen Ddihenydd a eisteddodd; ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, a gwallt ei ben fel gwlan pur; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olygon yn dân poeth. Afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron y farn a eis- teddodd, ac agorwyd y llyfrau."

Yr olwg yma o fawredd a sancteiddrwydd a gaiff dyn weithiau ar Dduw; a pha beth mewn canlyniad a wna ? Pa beth, o dan y cyfryw amgylchiadau, ydyw addoliad? Cynwysa o leiaf ddwy elfen. Ymostyngiad yw y naill; y llall yw mawrygiad. Y mae y Cristion yn cywilyddio o hono ei hun, ac ar yr un pryd, yn anrhydeddu yr Arglwydd. Mewn geiriau ereill, y mae yn addoli ac yn gogoneddu ei Greawdwr. Er fy mod hyd yma wedi defnyddio y gair addoliad, yn ei ystyr gyffredin a phen- agored, i olygu unrhyw a phob math o ddefosiwn, ym- ddengys mai ei arwyddocâd manwl a chywir yn y ddau Destament yw, ymgrymu; a chyfieithir ef felly yn 1 Chron. xvi. 29: Ymgrymwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd." Dan yr ym- syniad am hollalluogrwydd a chyfiawnder, am hollwybod- aeth a phurdeb Dwyfol, ac oddiar ymwybyddiaeth o ddrygioni ei weithredoedd a llygredigaeth ei galon ei hun, addoli yn y golygiad hwn y mae y credadyn. "Myfi a glywais â'm clustiau son am danat; ond yn awr fy llygad a'th welodd di. Am hyny y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.' Ond y mae ar unwaith yn edrych i fyny, ac o lwch a lludw edifeirwch yn gogoneddu y Jehofah; wrth yr hyn y golygir ei fod yn cydnabod ei fawrhydi, yn priodoli iddo bob gallu, doethineb, ac awdurdod y gall ddychymygu am danynt, ac yn cyfaddef ei fod yn anfeidrol fwy, galluocach, a gogoneddusach, nag y dichon iddo ef yn dragywydd