Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MANYLRWYDD Y FARN.

Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg "—PREGETHWR Xii. 14.

DYSGIR ni yn yr adnod flaenorol mai "swm y cwbl a glybuwyd"—a glybuwyd yn y llyfr hwn—" yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchymynion." A chawn yn yr adnod hon annogaeth i gyflawni "holl ddyled dyn" yn y ffaith y bydd i holl weithrediadau, yn gystal a phersonau, dynion gael eu dwyn i farn. Derbynia "pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff;" oblegid bernir ef "yn ol yr hyn a wnaeth.' Bydd i ymddygiadau dynolryw yn y byd ddylanwadu ar eu cyflwr yn y farn; bydd eu hanes tragwyddol yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol eu hanes daearol. Ac yn gymaint ag y byddwn ni yn cael ein barnu yn ol ein cyflawniadau, rhaid y bydd y cyflawniadau hynny mewn rhyw wedd arnynt—o ran yr haeddiant neu y drwg-haeddiant—o ran yr ysbrydion o honynt—yn bresennol yn y farn. Dysgir hynny yn bendant yn yr adnod hon. Gwel hefyd 2 Cor. v. 10; 1 Tim. v. 24 a 25.

Ceir ynddi ddau ddosbarthiad ar weithrediadau dynion; y mae y naill, yr hwn sydd yn arwynebol a dibwys, yn eu rhanu i rai cyhoeddus a dirgel. Cawn y cyntaf yn yr ymadrodd "pob gweithred," yn yr hwn y cynhwysir, heblaw gweithredoedd, bob rhan o ymarweddiad dyn ag sydd yn wybyddus yn y byd hwn. Y llall ydyw pob peth dirgel," yr hwn, yn ychwanegol at feddyliau a dymuniadau, a gymer i fewn y gweithredoedd hynny a gyflawnir mewn unigedd a thywyllwch. Cawn hefyd ddosbarthiad arall, yn ol eu natur foesol, ar weithrediadau dynion: Y maent yn dda neu yn ddrwg; y mae ysgogiadau dystaw yr ewyllys, yn gystal a'r cyflawniadau mwyaf trystfawr, yn meddu cymeriad, pur neu lygredig. A chan y bydd yr holl weithrediadau hyn, ai drwg ai da, ai hysbys ai anhysbys ydynt yn awr, yn y farn, gwelir mai priodol i ni fyddai bod mor rinweddol, a chyflawni