Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymaint o ddaioni ag sydd yn ddichonadwy i ni, ar y naill law; ac, ar y llall, ymdrechu hyd y mae ynom i gilio oddiwrth ddrygioni, ac i ddiddymu pechod ynom ein hunain, ac ymhob man arall y deuwn i gyfarfyddiad ag ef. Goddefwch i mi wasgu hyn yn mhellach at eich hystyriaethau:—

I. BYDD HOLL DDAIONI Y DDAEAR YN Y FARN.

1. Bydd holl weithredoedd daionus y ddaear yn y farn.—Mewn trefn i weithredu yn dda—yn drwyadl dda, rhaid meddwl a theimlo yn dda: oblegid meddyliau a theimladau wedi cymeryd ffurf ddaearol ydyw gweithredoedd. Ymddengys felly fod gweithredoedd, yn gystal a dynion, yn gyfansoddedig o ddwy ran—y weledig a'r anweledig, nen gorff ac enaid. Ac mewn trefn i ennill cymerad—wyaeth Duw a dyn, rhaid iddynt feddu corff hardd ac enaid sanctaidd. Y cyntaf—corff hardd, yn unig sydd yn angenrheidiol i sicrhau llawer o anrhydedd y ddaear; oblegyd ar olygiad, neu wynebpryd, gweithredoedd, yn gystal a phersonau, ac nid ar eu calonnau, yr edrych dyn. A gall gweithred feddu ymddangosiad allanol dymunol, tra y bydd yr ysbryd mewnol a roddodd fod iddi yn halogedig. Gall hunanoldeb, er mor ddirmygus ydyw yng ngolwg Duw, ymddangos yn hawddgar i ni: efallai y bydd iddo borthi y newynog, a dilladu y noeth; a chyf—lawni llawer o weithredoedd a feddant ddigon o ardderch—owgrwydd allanol, i beri i newyddiaduron y wlad barhau am wythnosau i alw sylw y byd atynt, ac i beri i'r byd ei hunan, yng nghanol ei rodres a'i brysurdeb, sefyll i edrych arnynt. Ond bydd ar weithredoedd a gyflawnir oddiar gymhelliadau isel o'r fath, gywilydd cyfodi eu penau yn nhragwyddoldeb. Oddieithr fod ein cyflawniadau yn tarddu oddiar amcanion anrhydeddus, gan nad faint a glodforir arnynt ar y ddaear, hwy a gollant eu cymeriad ac a ddeuant yn anmharchus cyn cyrraedd y farn.

Yn gyferbyniol i hyn, gall gweithred, er mai corff salw ac afluniaidd fydd ganddi, feddu enaid ardderchog. Ef—allai mai ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol—ymdrech i ddysgu plant ac ieuenctyd i ddarllen ac i ddeall Gair yr Arglwydd ydyw y ffurf allanol sydd ar y weithred;