dichon, er hynny, mai cariad anniffoddadwy at Waredwr y byd ydyw bywyd mewnol y weithred hono; ac y mae y bywyd hwnnw, fel bywyd Duw ei hun, yn dragwyddol. Hwyrach mai swm bychan o arian yn cael ei roddi yng nghasgliad y Feibl-Gymdeithas, neu y Gymdeithas Genadol, ydyw corff gweithred arall: pa beth ydyw ei henaid? Un o feddyliau mwyaf Duw wedi ymgartrefu yng nghalon dyn—dim byd llai na dymuniad angerddol am achubiaeth yr hil ddynol! A bydd yr Arglwydd yn rhwym o amddiffyn ysbryd mor ardderchog a hwn. Bydd hwn yn werth ei ddangos yn y farn. Ac onid yw y syniad y bydd ein holl weithredoedd daionus, pa mor ddinôd bynag y gallant ymddangos ar y ddaear, ar gael yn y dydd diweddaf, ac y bydd i'r Barnwr wrth oleuni llachar y dydd hwnnw, wneuthur arddangosiad gogoneddus o honynt i breswylwyr y bydoedd i gyd, onid yw hyn—y syniad y bydd pob daioni gwirioneddol a gyflawnwn yn bod am byth, ac y bydd yn ychwanegiad at ddaioni cyffredinol llywodraeth Duw yn gymhelliad grymus i ni gyflawni gweithredoedd da? Y mae hyn yn dra chalonogol i frodyr a chwiorydd gweiniaid, canys bydd y gronynau lleiaf o ffyddlondeb mewn coffadwriaeth yn oesoesoedd. Bydd yr araeth fach, ddïathrylith, ar Ddirwest, y cynghor ar y ffordd, y rhybudd yn y chwarel, a phob peth cyffelyb, yn y farn. Bydd i ddefnynau o lafur a hunanymwadiad a ddisgynant ar anialwch cras Amser, ac a annghofir yma yn fuan, gydymgrynhoi i ffurfio un môr mawr o ddaioni. Dylem ystyried nad ydyw gwerth unrhyw waith moesol yn dibynu ar ei faint neu ar ei ffurf, ond yn hytrach ar y cymhelliad fydd yn gorwedd o dano, neu ar yr amcan fydd mewn golwg wrth ei gyflawni. Anhawdd meddwl am gymwynas lai na rhoddi dyferyn o ddwfr oer i ddyn ar ei daith; ond pe gwnaem hynny mewn ysbryd priodol, byddai y weithred mewn bod yn dragywydd—ni byddai digon o dân yng nghreadigaeth Duw i ddileu y gwpanaid o ddwfr oer. "Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrif—ena, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt."