Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ychwanegol at ein gweithredoedd eu hunain, bydd eu holl ganlyniadau yn wybyddus yn y farn. Nis gallwn wrth oleuni amser ddilyn achosion i'w heffeithiau pellaf, mwy nag y gallwn ar bob adeg olrhain effeithiau i'w hachosion cyntaf. Un rheswm am hyny ydyw, fod rhai amgylchiadau bychain iawn, yn arwain i rai mawrion a phwysig iawn. Pe disgynai creadur dëallol, dyeithr i ddeddfau y byd hwn, yn un o gymoedd mynyddig Cymru, a phe craffai yno ar y niwl yn ymgeulo i leithder, ar y lleithder yn ymweithio yn ddefnynau, ac ar y defnynau yn cydgyfarfod i gyfansoddi ffrwd, gwaith anhawdd iddo, er sylwi fel hyn, fyddai ffurfio syniad am y ffrwd hono yn myned yn afonig, ac am yr afonig yn myned yn afon; a gorchwyl anhawddach iddo fyddai ymgodi i ddirnadaeth am yr afon hono yn dylanwadu ar gymeriad y wlad, yn rhoddi cyfeiriad i weithgarwch ei thrigolion, yn cynhyrchu masnach, yn galw dinasoedd i fod, ac yn effeithio yn y diwedd ar hanes y ddaear i gyd. Cyflawna dynion rai gweithredoedd ag sydd o ran eu heffeithiau yn ymdebygu i hyn. Bydd i'w canlyniadau ymestyn ymlaen, gan amlhau a chasglu nerth, nes taflu bywyd newydd i galon cymdeithas yn gyffredinol. Bydd i'w dylanwad ymchwyddo ac ymddyfnhau i ganlyn yr oesoedd; ac efallai y gwelir yn y diwedd y bydd, nid yn unig wedi creu chwyldroadau ar y ddaear, ond y bydd hefyd wedi newid gwyneb tragwyddoldeb ei hunan. Un o'r cyfryw weithredoedd ydyw gweddi—gwaith credadyn yn ymostwng mewn rhyw gongl anghysbell gerbron yr Arglwydd, i ofyn iddo achub un o'i gymydogion annuwiol. Hyn yn unig ydyw y weithred ynddi ei hun: pa beth yw ei chanlyniadau? Byddai y rhai canlynol yn hollol naturiol yn gyntaf oll atebir y weddi—achubir y dyn; bydd y dyn hwnnw yn foddion i achub deg ereill, bydd y deg yn foddion i achub cant, y cant yn foddion i achub mil, ac felly ymlaen. Ant rhagddynt o oes i oes, gan luosogi ac ymgryfhau; ac efallai y gwelir yn nhragwyddoldeb y bydd un weddi wedi dylanwadu ar nef ac uffern. Ac os nad ydyw hyn yn wybyddus ar y ddaear, nid ydyw hyny yn bwysig iawn, oblegyd datguddir y cyfan yn y farn. Meddylier hyn—mor fendigedig i gredadyn fydd