Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod gerbron yr Orseddfainc Wen â chynulleidfa o eneidiau ag y bydd ei weddiau a'i esiamplau ef wedi bod yn elfenau yn eu hachubiaeth! Onid ydyw y syniad fod yn ddichonadwy i'r fath fri a mwynhad syrthio i ran dyn marwol, yn deffro ynom ymroddiad byw a grymus!

2. Bydd holl ddirgelion daionus y ddaear yn y farn.—Y mae dymuniadau dynion, fel rheol, lawer yn eangach nag ydyw eu galluoedd; ac oddiar hyn—oddiar y ffaith fod gallu dyn i ddymuno yn fwy nag ydyw ei allu i gyflawni—y tardd llawer iawn o ddirgelion drwg a da y byd. Gwelir yn hyn hefyd un gwahaniaeth rhwng Duw a phlant Duw y mae ewyllys a gallu y Creawdwr yn gymesur, y naill fel y llall yn anfeidrol: pan ewyllysiodd Efe ddwyn bydoedd i fod, ymddangosasant yn ol ei ewyllys. Deuai hyn i'r golwg hefyd yn mywyd ein Gwaredwr: pan ewyllysiai Efe iachau dyn claf, neu fywhau dyn marw, cymerai hyny le yn ol ei ewyllys. Gyda golwg ar ddyn y dyn mwyaf a goreu mewn bod, y mae yn wahanol; er ymddwyn o hono ar y meddyliau mwyaf dyrchafedig a sanctaidd, y mae yn cael ei hun yn aml yn amddifad o nerth i'w troi yn weithredoedd. Gall ddymuno dymuniadau o'r math mwyaf arddunol a gogoneddus; ond dymuniadau, neu ysbrydion, ydynt; a pha fodd y gwisgir hwy â chnawd ac esgyrn! Gan na feddant gyrff, gorfodir hwy i ddychwelyd i'w byd eu hunain; oblegyd nid ydyw dynolryw, yn eu sefyllfa bresennol, yn alluog i gymdeithasu ag ysbrydion noeth, nac i deimlo yn ddedwydd yn eu presennoldeb. Bu mynwes aml i Gristion yn fagwrfa i lawer cynllun gwych i leshau ei gyd-ddynion; ond ni feddai allu na moddion i roddi ei gynllun mewn gweithrediad; yr hwn, oherwydd hynny, a nychodd ac a drengodd yn ei blisgyn ei hun. Dylem ystyried, er hynny, mai nid gwaith ofer ydyw meddwl yn gywir a theimlo yn dyner. Dïau fod llawer blodeuyn yn ymagor bob blwyddyn yn y ceunant dwfn, ac yn gwasgar ei beraroglau, gan fyw a marw yno, heb i lygaid dyn o gwbl ei weled; ond y mae yr haul yn edrych ac yn gwenu arno bob dydd o'r tymhor. Yn gyffelyb gyda golwg ar feddyliau ac amcanion, dymuniadau ac ocheneidiau y credadyn, nid yw ei gyd-ddynion yn eu gweled, nac yn gwybod fawr iawn am danynt; ond