golygfeydd fel hyn. Bydd y cofiant yn berffaith yn y farn. Yna, gan fod y pethau hyn yn werthfawr, ac i gael eu datguddio, bydded i ni, os nad allwn gyflawni gweith—redoedd nerthol, ymdrechu meddwl yn gywir a dymuno yn bur; oblegyd os anfonwn at Dduw lawer o erfyniadau uniawn a dyrchafedig, ni a gawn drwy ein Harglwydd Iesu Grist oleuni yn nglyn cysgod angau, a hyder yn nydd y farn.
II. BYDD HOLL DDRYGIONI Y DDAEAR YN Y FARN.
1. Bydd holl weithredoedd drygionus y ddaear yn y farn:—Caniateir yn ddïau nad ydyw dyn, gan nad faint ydyw ei lygredigaeth, yn pechu yn uniongyrchol oddiar gariad at bechod ynddo ei hun; y mae yn troseddu deddf ei Greawdwr yn hytrach oblegyd ei bod yn gorwedd rhyngddo a gwrthrychau ei serch. Fel rheol, canlyniad, ac nid amcan, gweithredoedd dyn ydyw pechod. Yn gyson â hyn, er y clywir dynion weithiau yn ymffrostio mewn gweithredoedd drygionus, anfynych y clywir hwy yn ymogoneddu mewn drygioni digymysg. Carent allu dilyn tueddiadau pechadurus eu natur heb i neb eu gweled; ond nid ydynt bob amser yn llwyddo. Gwyddom fod y tueddiadau hyn, mewn miloedd o amgylchiadau, yn ymgryfhau cymaint nes ymffurfio yn weithredoedd ysgeler ac ofnadwy. Gwelir chwaeth at ddifyrion isel a chyfeddach, yn esgor ar afradlondeb a meddwdod.
anystyriaeth a rhyfyg y galon yn dysgu siarad; a rhydd rhegfeydd y dyn brawf adnewyddol ar amynedd Duw. O dan ddylanwad temtasiwn, trawsffurffr nwydau a medd—yliau halogedig yr enaid yn weithredoedd. O gael eu hir goledd, y mae y teimladau o genfigen a gelyniaeth yn casglu nerth, gan ddyfod yn aflywodraethus, ac gwaethaf arswyd gwaradwydd a chosb, ymddangosant ger bron y byd o dan y ffurf o lofruddiaeth. Ceir fel hyn fod rhyw bechodau "yn amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn." Cymerir sylw o weithredoedd fel hyn gan fren—inoedd y ddaear; a gwysir hwy hefyd i wyddfod Brenin tragwyddoldeb. Yr un pryd, er ofni a chredu nad ydyw y barnau a'r cosbau a oddiweddant bechodau rhyfygus yn y sefyllfa bresenol, namyn rhagredegwyr i bethau