Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddwl na dychymygu. Fel y seraphiaid, y rhai, er eu bod yn seraphiaid, a ymguddiant yn eu hadenydd eu hunain yn mhresenoldeb yr Arglwydd, y mae yr addolwr yn yr un presenoldeb yn myned i lawr yn myned yn ddim yn ddim ond yn llygad i weled, yn galon i fawrhau ac yn llais i glodfori y Jehofah; ac y mae, ar yr un pryd, fel hwythau, yn llefain o eigion ei ddinodedd, "Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd." Y mae fel hyn, ar y naill law, yn ymostwng, yn ofni, yn llesmeirio; ac ar y llall, yn dyrchafu, yn mawrygu, yn gogoneddu. A thra nad ydyw yr elfenau hyn o ostyngeiddrwydd a pharched- igaeth yn absennol o unrhyw addoliad cymeradwy, credwn mai hwynt-hwy yw y prif elfenau yn addoliad y "Duw anfeidrol mewn gogoniant."

II. Prydferthwch Duw:-Canfyddwn adlewyrchiad o hawddgarwch yn gystal ag o arddunedd y Creawdwr ar, yn, a thrwy y greadigaeth. Gwelwn hyny nos a dydd, yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod. Cyfarfyddwn ymhob cyfeiriad âg esiamplau o deleidrwydd a thlysni- mewn symudiad, mewn ffurf, ac mewn lliw. Onid yw ysgogiad y brithyll yn yr afon, neu yr aderyn drwy y wybr, a ffurf y dderwen neu y mynydd, a lliw y blodeuyn neu y ffurfafen, yn nodedig o brydferth? Y mae y blagur yn îr ac yn dlws; ac y mae maes o wenith melynwyn wrth ymdoni o dan yr awel, yn gweinyddu hyfrydwch i ni. Tyr y wawr yn firain, a machluda yr haul yn ogoneddus. Ymddengys harddwch drwy ruddiau gwridog y wyryf, a thrwy wallt gwyn a modrwyog ei thaid. Ac onid yw anadl laith a llygredig dyn yn ymnewid yn fynych, yn y gauaf, ac yn ymffurfio ar ffenestr ei ystafell-wely yn drefn ac yn geinder digyffelyb? Dangosai y byd hwn gymaint o gysondeb a mireinder i bobl oleuedig a chwaethus fel y Groegiaid, fel mai Cosmos—prydferthwch-oedd yr enw a roddent hwy arno. Dichon nad ydyw mor flagurog a swynol yn awr ag ydoedd unwaith, a bod blodau a pheraroglau Paradwys yn rhagori ar bob rhyw o flodau a pheraroglau a geir yn bresenol; oblegid y mae y ddaear o achos dyn yn felldigedig, a drain ac ysgall yw ei chynnyrch naturiol. Ac os yw byd melldigedig, fel yr eiddom ni, yn arddangos cymaint o drefn a thlysni, mor hyfryd raid fod yr