Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olwg ar y greadigaeth pan ddywedodd y Creawdwr yn fuan wedi ei gorphen, mai "Da iawn ydoedd." Os ydoedd hi wrth ei fodd, ac yn ddadguddiad o hono Ef ei hun, mor ddysglaer a phrydferth raid fod y Nef! Ac os ydyw y Nef i gyd yn brydferthwch ac yn oleuni tragywyddol, mor ogoneddus raid fod Duw ei hun!

Naturiol, er hyny, pa mor fawr bynag ydyw, yn hytrach na moesol, yw y gogoniant uchod; tra mai gogoniant moesol-hawddgarwch cymeriad a chalon yr Arglwydd- sydd yn gweinyddu mwyaf o hyfrydwch i ni. Pryd- ferthwch daioni a chariad, maddeugarwch a thrugaredd y Goruchaf, sydd yn fywyd ac yn nefoedd i bechadur. Dadguddir hwn yn helaeth drwy y greadigaeth; canys y mae yn llawn o drefniadau caredig. Dadguddir ef yn helaethach drwy ragluniaeth-drwy oddefgarwch, gwar- edigaethau, a darpariadau tosturiol. A dadguddir ef yn berffaith drwy yr efengyl. Caiff y sawl sydd yn adnabod Crist olwg gyflawn ar y prydferthwch Dwyfol: "Yr hwn yw delw y Duw anweledig." Y mae "efe yn ddysgleir- deb ei ogoniant ef ac yn wir lun ei berson ef."

Caraswn roddi esiamplau o ogoniant cariad y Jehofah yn y tri chyfeiriad a nodwyd; ond elwn drwy hyny yn rhy taith i amcanion yr ysgrif bresenol. Rhaid ymfodd- loni ar ddyfynu rhai adnodau, drwy y rhai y mae yr hawddgarwch Dwyfol yn tywynu yn ddysglaer: "Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell; yn nirgelfa ei babell y'm cuddia. A gŵr fydd megis yn ym- guddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl; megys afonydd dyfroedd mewn sychdir, megys cysgod craig fawr mewn tir sychedig. Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? Ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarhâ wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. Llygaid pob peth a ddysgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da. Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loew-win; o basgedigion breision,