Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn gynyrch awen, yr hyn a geir yw dychymygion gwylltion ac annaturiol, ffugrau cymysglyd, a thywyllni iaith, nes peri i ddyn dybio fod barddoniaeth wedi rhoddi llythyr ysgar i synwyr. A'r pwnc mawr fynychaf yw y glec a'r odl, yr hyn sydd yn cyfrif am boblogrwydd eithriadol yr awdl ymysg y rhai a alwant eu hunain yn feirdd. Ond wrth ddarllen yr Ymsonau, cawn ein hunain yn nghanol meddyliau ardderchog; yr ydym yn teimlo mai y meddwl sydd yn farddonol, ac nid y wisg â pha un ci dilledir; yn wir, wrth fyned yn y blaen, yr ydym yn myned yn gwbl anghofus o'r wisg, oblegid fod arucheledd y syniadau yn llyncu ein bryd. Y mae y meddyliau sydd yn yr Ymsonau oll yn bur a dyrchafedig, ac y maent yn gwresogi'r galon yn gystal a chyffroi y dychymyg. Hawdd gweled fod yr awdwr yn ddyn o ddifrif; nid tegan chwareu iddo yw barddoni, ac nid ei bwynt yw goglais y ffansi; na, y mae amcan i'w gân. Un o'r amcanion hyny, fel y dywed ei bryddest i'r Disgybl-Fardd ar Gadair Idris, yw rhoddi llais i gyfrinion natur. Ond, fel pob gwir fardd, nid digon ganddo gyfieithu ymadroddion anian i iaith ddealledig gan y cyffredin, ac egluro eu hystyr a'u cynwys; teimla fod natur yn awgrymu mwy nag y mae yn ddweyd, ac awydda am fedr i ganfod ac esbonio ei hamnaid. Gydag amcan mor arddunol, nid rhyfedd ddarfod i'r bardd ganu mor ysbrydol a byw. Un o brif elfenau awen Iolo ydyw nerth. Y mae yn ehedeg yn uchel ac ymhell. Nid gwenynen ydyw yn hedfan o flodeuyn i flodeuyn, gan sugno melusder o bob un, ond eto yn cadw o fewn terfynau gardd, ac o hyd yn aros yn ngholwg y cwch; yn hytrach y mae yn gyffelyb i cryr, yn meddu esgyll cryfion, yn medru teithio i'r pellafoedd ac ymddyrchafu i'r uchelder; ac y mae yntau wedi derbyn rhoddion i ddynion. Ni nodweddir ei gyfansoddiadau yn gymaint gan dynerwch, er y ceir ynddynt gyffyrddiadau tyner weithiau; a braidd na ddywedem ei fod yn rhy amddifad o'r elfen chwareus, ond nis gwyddom am un bardd Cymreig, na byw na marw, i'w gystadlu ag ef mewn nerth meddwl. Nid yw mor llawn o asbri a Cheiriog; nid yw mor dyner ag Islwyn, ac nid yw ei adenydd yn wlybion gan with trwm. glyn cysgod angau. fel y bardd anfarwol hwnw; ond braidd na ddywedem ei fod yn rhagori ar y ddau mewn grym. Nis gellir darllen llinell heb deimlo ein bod yn dyfod i gyffyrddiad ag awen gref a galluog. Nodweddir ef hefyd gan gyfoeth meddwl. Nid oes arno brinder meddylddrychau; braidd nad ydyw yn afradus arnynt, gwthia gymaint o syniad i ambell linell fel nad gormod dweyd fod ei llawnder yn ei gwneyd yn glogyrnog. Čeir ganddo mewn ychydig dudalenau ddigon o gynyrch meddylio! i wneyd ffortun bardd cyffredin. Oblegid hyny ni cheir yn ei gerddi yr un arwydd o orchest; ni chyfleir i ni y syniad o gwbl ei fod ar ei oreu ac mewn perygl o ddihysbyddu ei hun, yn hytrach dwg allan o'i drysorau bethau newydd a hen mor ddidrafferth nes peri i ni deimlo fod golud diddiwedd yn ystôr ganddo. Ni chymerem lawer am ddweyd nad yw ar ei oreu yn y caniadau sydd ger ein bron, sarhad ar y cyhoedd yw gwaith unrhyw un yn cyflwyno iddo ddim ond ei oreuon, ond