a gloew-win puredig. Efe a lwnc angeu mewn buddugoliaeth; a'r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddiar bob wyneb; ac efe a dyn ymaith warthrudd ei bobl oddiar yr holl ddaear."
Caiff y credadyn weithiau yr olwg hon arno; a pha beth a wna wrth syllu arni? Pa beth ydyw addoliad, pan y mae hawddgarwch y Jehofah yn tori ar enaid yr addolydd? Cynwysa o leiaf ddwy elfen:—
1. Naturiol ydyw casglu fod ansawdd calon dyn wrth edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, i raddau, yn gyffelyb i'r hyn ydyw wrth iddo edrych ar ryw brydferthwch arall. A gwyddom mai dylanwad tlysni yw deffro ynom anwyldeb ac ymhyfrydiad, a chynnyrchu ynom serchiadau a dymuniadau. Ac onid yr hyn a wna yr addolydd yn yr olwg ar hawddgarwch Duw ydyw, caru—yn gyntaf ac yn benaf, caru? Cyffröir hyd yr eithaf ei alluoedd i anwylo ac ymhyfrydu. Fel y mae yr haul wrth feirioli y ddaear, a chynhesu ac ireiddio ei gwraidd, yn dwyn allan o honi flodau a pheraroglau, felly y mae yr Arglwydd wrth gyfodi ar ac ymddadguddio i enaid pechadur, yn dadmer ei galon, yn toddi ymaith ohoni rew ac eira cenfigen, ac yn goleuo a gwresogi ei holl natur. Mewn canlyniad, bydd i serchogrwydd flaguro, ceir ffrwyth ar winwydd cariad, a dechreua y cymeriad wasgaru peraroglau. A rhaid fod peraroglau yn tarddu oddiar ddynoliaeth bur a chariadlawn, yn gymeradwy yn y Nef. Ymhellach, yn ol y graddau y dadguddir i ddyn yr hawddgarwch Dwyfol, yr ymgryfhâ ei gariad at yr Arglwydd, ac yn ol y graddau yr ymgryfhâ ei gariad at yr Arglwydd, y daw cariad yn frenin ar holl gynneddfau a theimladau ei natur. Heblaw hyny, nid ydyw cariad a gelyniaeth ond gwahanol agweddau ar yr un egwyddor; canys yr ydym wrth garu unrhyw berson, yn cael ein harwain i gasâu pob peth gwrthwynebol a niweidiol iddo. Y mae hyn yn wir gyda golwg ar ein cariad at Dduw; yr ydym wrth ei garu Ef yn cael ein llanw â chasineb at bob peth croes iddo. Felly y mae gelyniaeth—gelyniaeth at ddrygioni, yn hanfodol i addoliad. Wrth weled fod pechod wedi tynu dagrau o lygaid a gwaed o galon ei Waredwr, wyla yr addolydd ddagrau o o edifeirwch