Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerwach na bustl, a phoethach na thân. Nis gallwn addoli yn annibynol ar gariad. Gan nad faint o yni a gweithgarwch fydd yn nghynneddfau a theimladau eraill yr enaid, os na bydd yr egwyddor hon yn treiddio yn fywyd ac yn ysbryd drwy y cwbl, bydd y cyfan yn ofer . 2. Yr elfen arall yn y wedd hon ar addoliad yw, ymgysegriad—nid ymgysegriad i waith, yn awr, yn gymaint ag ymgysegriad o ran meddwl a chalon i Dduw. Tardd hon oddiar yr elfen flaenorol,—ein cariad ato. Gwyddom ein bod, ar ol dechreu anwylo unrhyw berson dynol, ac yn ol mesur ein hanwyldeb o hono, yn cael ein harwain yn naturiol a dïarwybod i ni ein hunain i feddwl am dano, i ddymuno lles a dedwyddwch y cyfryw, i hiraethu am ei gymdeithas, ac i fyw iddo ac erddo. Y mae y dyn i gyd yn dilyn ei galon. Yn gyffelyb, wedi i bechadur, yn yr olwg ar raslonrwydd y Jehofah, ddechreu ei garu, y mae yn ol grym ei gariad ato yn meddwl am dano, "ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos." Daw mwynhau ei gymdeithas yn awyddfryd cryfaf ei galon, a'i ogoneddu yn nod uchaf ei fywyd. Teimla fod ei holl ffynnonau yn Nuw; ac oblegid hyny, Duw ydyw cartref meddyliau a theimladau ei natur; dychwelant oddiwrth bawb a phob peth, fel pererinion, ato; ac ynddo Ef y mae ei ysbryd yn byw, yn symud, ac yn bod. "Yr holl afonydd a redant i'r môr:" yr un modd, y mae dymuniadau ac amcanion yr addolwr yn ymgyfeirio byth at Dad ein Harglwydd Iesu Grist. Ac y mae hyn—myfyrio arno, hiraethu am gymundeb âg Ef, ac "edrych ar brydferthwch yr Arglwydd," yn addoliad. Yna, wedi i enaid ddyfod yn gysegredig i, ac yn glymedig wrth, Dduw, os bydd angen am ryw wasanaeth neu aberth, am arian neu ymdrechion—eisieu rhywun i wynebu ar galedi, gwarth, a pheryglon, gwaedda yr enaid hwnw, Wele fi! Wrth gael ei hun yn wrthddrych sylw a chymwynasgarwch anfeidrol, llenwir ei galon âg awydd angerddol i wasanaethu ei Greawdwr. Fel y bu Crist farw drosto ef, y mae yntau yn barod i farw dros Grist. Mor naturiol, gan hyny, ydyw addoliad Duw! Yn yr olwg ar brydferthwch ei gymeriad, y mae ei garu y peth mwyaf rhesymol a hyfryd mewn bod; wrth ei garu, daw myfyrio arno, chwennychu ei