gymdeithas, a rhyfeddu at ei ddaioni, yn weithrediadau greddfol i ddyn; a thrwy y cwbl, daw ymdrechu ei ogon— eddu yn waith rhy hawdd a dymunol iddo allu peidio ei gyflawni.
III. Caiff yr addolydd un olwg arall ar Dduw—golwg arno, nid fel Un mawr a galluog, hollwybodol a chyfiawn, yn unig; nac fel Un graslawn a thrugarog, llawn o gariad a ffyddlondeb, yn unig; ond fel Un mawr, a da, galluog a graslawn, cyfiawn a thrugarog. Gwel fod nerth diderfyn a daioni diderfyn, gwybodaeth annherfynol a thosturi annherfynol, yn cydgyfarfod ynddo; a bod uniondeb a chymwynasgarwch, sancteiddrwydd a maddeugarwch anfeidrol, yn ymgofleidio ac yn ymgusanu yn ei natur. Dengys ei holl weithredoedd iddo mai braich cariad anfesurol ydyw ei hollalluogrwydd, ac mai llygad tosturi difesur ydyw ei hollwybodaeth. Cyfeirir at yr olwg gyflawn hon ar ei gymeriad mewn llïaws o fanau yn y Bibl. Cymerer dwy neu dair o esiamplau:—"Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel.
Efe sydd yn iachâu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae efe yn rhifo rhifedi y ser; geilw hwynt oll wrth eu henwau. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel? Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu yr anghenus o'r domen; i'w osod gyda phen— defigion, ïe, gyda phendefigion ei bobl. Yr hwn a wna i'r anmhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen—fam plant. Canys fel hyn y dywed y Goruchel a'r Dyrchafedig, yr Hwn a breswylia dragywyddoldeb, ac y mae ei enw yn sanctaidd, Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf, a chyda'r cystuddiedig a'r isel o ysbryd, i fywhâu y rhai isel o ysbryd, ac i fywhâu calon y rhai cystuddiedig."
Pan fydd awyr enaid yr addolwr yn lled glir, caiff yr olwg hon ar gysondeb ac eangder y cymeriad Dwyfol. Gwel y Brenin yn ei degwch. A bydd i hollalluogrwydd a sancteiddrwydd perffaith, wrth gael eu cyd—dymheru â daioni a chymwynasgarwch anfesurol, golli eu hofnadwy— aeth iddo; a chedwir cariad a graslonrwydd diderfyn, drwy eu hundeb à mawredd a chyfiawnder annherfynol,