yn arddunol a gogoneddus gerbron ei olygon. Cawsai Edward Jones, Maes-y-plwm, y datguddiad hwn pan gyfansoddai y penill canlynol:
"Clyw, f'enaid tlawd, mae genyt Dad
Sy'n gwel'd dy fwriad gwàn,
A Brawd yn eiriol yn y nef
Cyn codi'th lef i'r làn:
Crêd nad diystyr gan dy Dad
Yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw,
Pe byddai d'enau yn rhy fud
I'w dd'wedyd gerbron Duw."
Myfyrier arno,—er fod genau yr enaid yn rhy fud i ddywedyd llawer ger bron Duw—y mawr, sanctaidd, ac ofnadwy, gall anturio at ei Dad, a theimlo yn hyderus y bydd iddo Ef, drwy y Brawd sydd yn eiriol yn y nef, ystyried ei gri. Ni raid mynegi mai yr un un yw y ddau—y Tad a Duw. Pa beth a wna yr addolydd, neu a wneir ynddo, pan y sylla ar yr Arglwydd yn y goleuni hwn? Diau y caiff pob tuedd ddaionus ynddo adnewyddiad ac adgyfnerthiad; purir ac ysbrydolir ei natur; a llenwir ei galon â gwynfydedigrwydd annrhaethadwy. Pa beth o dan y fath amgylchiadau ydyw addoliad? Cynwysa yn ddiau bob elfen—cariad, parch, diolchgarwch, mawl, &c.; ond credwn fod dwy egwyddor yn ymdreiddio dan a thrwy y cwbl, sef ymddiried a gobaith. Wrth ganfod fod nerth diderfyn a thosturi diderfyn wedi cymeryd ei blaid, naturiol yw i ddyn ymddiried ac ymdawelu. Yna y derfydd am ei holl ofnau ef, a throir ei bryder yn dangnefedd heddychol. Wrth weled fod daioni, doethineb, a golud anfeidrol rhyngddo â thrueni, mor hawdd iddo ydyw gobeithio a llawenychu! Os ydyw wrth edrych yn ol yn cael achos i ymofidio, y mae yn cael achos i orfoleddu wrth edrych ymlaen; a gwelir yn aml, o dan y fath amgylchiadau, ddagrau edifeirwch a dagrau llawenydd yn cydlifo hyd ei ruddiau. Os ydyw rhan flaenorol ei fywyd yn auaf tywyll a thymhestlog, y mae ei ddyfodol yn haf blodeuog a dysglaer. Credwn fod yr elfenau hyn o ymddiried a gobaith, yn bresenol ymhob addoliad cymeradwy; mai yn ol y graddau y bydd y dadguddiad a gaiff yr enaid o Dduw yn eglur a chyflawn, yr