Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgryfhânt; ac mai yn ol y graddau yr ymgryfhânt hwy, y bywheir ac y gwresogir yr elfenau eraill.

Crybwyllais fod addoliad yn golygu cymdeithas rhwng dyn â Duw; ac felly y mae. Yn ol y graddau y mae yn adnabod yr Arglwydd, ac yn ymddiried ac yn gobeithio ynddo, galluogir yr addolwr i nesâu ato ac i lefaru wrtho. Cymer cymundeb le rhwng creadur a Chreawdwr.

Ar y naill law, y mae y credadyn, fel plentyn, yn adrodd ei helyntion—pryder a thangnefedd ei ysbryd, profedigaethau a chysuron, peryglon a gwaredigaethau ei oes; yn cydnabod cymwynasgarwch a ffyddlondeb ei Dad nefol, ac yn cyfaddef ei bechodau amrywiol a llïosog, yn adrodd wrtho hanes allanol a mewnol ei fywyd. A bydd yr ymarllwysiad hwn yn ymwared ac yn adfywiad dirfawr iddo. Bendith i enaid helbulus yw cael mynegu ei ofidiau wrth ddyn caredig a doeth, a derbyn cydymdeimlad y cyfryw yn ei brofedigaethau. Ond y mae cael rhyddid i sibrwd ei drallodion yn nghlust tosturi Dwyfol, yn fywyd o farwolaeth i greadur blinderog. Ar y llaw arall, bydd yr Arglwydd, fel Tad tyner yn gwrandaw—yn clywed pob gair ac ochenaid; a bydd Efe wrth wrandaw yn cael hwyrach gymaint o hyfrydwch ag a fydd yr addolwr wrth adrodd. Dichon fod Duw yn meddwl mwy o gyfaddefiadau, o ymbiliau, a mawl ei bobl, nag a feddyliant hwy eu hunain o honynt. Y mae hanes enaid—pa mor ddiogoniant bynag ydyw y cyfryw beth ynddo ei hun—wrth gael ei draethu yn edifeiriol a diolchgar, yn dyfod yn addoliad o Awdwr yr enaid. Mwy, wrth wrandaw y mae yr Arglwydd, yn awr ac yn y man, yn gweled yn dda lefaru. Wrth glywed ei blentyn yn cydnabod ysgelerder a llïosogrwydd ei bechodau, ac yn achwyn arno ei hun oblegid maint a grym ei lygredigaeth, y mae yn dyweyd ambell i adnod wrth ei ysbryd, fel y gall Duw ddyweyd adnod:—" Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt can wynned â'r eira; pe cochent fel porphor, byddant fel gwlan. Canys yr Hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef. A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a ddodaf o'ch mewn chwi; a thynaf y galon