gareg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig. Myfi a roddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl." Wrth ei glywed—wrth ddeall fod yr Arglwydd yn meddwl maddeu ei holl anwiredd ac iachâu ei holl lesgedd, rhoddir ei enaid ar dân, ar dân o ddiolchgarwch a mawl. Yna, yn lle ymostwng a mawrhau, neu garu ac ymgysegru, neu ymddiried a gobeithio yn ddystaw, y mae ei deimladau yn aml yn ei orchfygu, ac y mae yn clodfori yr Arglwydd â holl frwdfrydedd ei ysbryd ac â holl nerth ei lais. Ambell i waith y mae yn canu rhai o ganiadau Sïon, yna yn wylo dagrau melus iawn, a phryd arall y mae, oddiar olwg ar oludoedd yr Efengyl ac oddiar brofiad o lawenydd, yn gorfoleddu—yn neidio ac yn moli Duw. Ymdodda ei feddyliau a'i deimladau i un anthem o fawl; a pha offeryn ar y ddaear a ddichon arllwys allan beroriaeth mor bur a hyfryd, mor ysbrydol a nefol, â chalon dyn—ag enaid duwiolfrydig yn y mwynhâd o gymdeithas yr Arglwydd!
HEN HANES.
Wrth esgyn yn barhaus, o gam i gam,
Ar yrfa creadigaeth—gyrfa hir
A newydd iddo Ef ei hun, yr Ior
Wrth lunio dyn, gyrhaeddodd ben ei daith.
Gosododd ynddo binacl ar ei waith,
Ac ymlonyddodd yn yr olwg ar
Greadur tebyg iddo Ef ei hun—
Un oedd yn ddigon iddo Ef ei hun.